Mae Gweinidog yr Economi wedi dweud wrth y Senedd y gallai dau barth buddsoddi gael eu sefydlu yng Nghymru i yrru twf economaidd a chreu swyddi.

Dywed Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru am weld parthau buddsoddi yn y de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain yn canolbwyntio ar led-ddargludyddion ac uwch-weithgynhyrchu.

Mae disgwyl i barthau buddsoddi, sy’n rhan o agenda codi’r gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, elwa ar oddeutu £80m o doriadau trethi a mentrau eraill dros gyfnod o bum mlynedd.

Dywedodd Vaughan Gething wrth Aelodau’r Senedd fod trafodaethau rhwng gweinidogion Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi bod yn adeiladol, ar ôl i un parth buddsoddi yn unig gael ei gynnig yn wreiddiol.

“Yn seiliedig ar ein dadansoddiad o gyfleoedd ar gyfer twf mewn clystyrau potensial uchel, rydym yn cytuno fod yna achos dros ddau barth buddsoddi yng Nghymru,” meddai.

“Rydym yn ffafrio un parth buddsoddi yn ne-ddwyrain Cymru ac un yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy’n cwmpasu Sir y Fflint a Wrecsam.

“Mae hyn yn adlewyrchu cryfderau penodol y sector a’r clystyrau presennol ym mhob rhanbarth, yn enwedig lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghasnewydd, gyda chysylltiad â Phrifysgol Caerdydd a de-ddwyrain Cymru’n ehangach, ac uwch-weithgynhyrchu gwerth uchel yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

“Bydd y sectorau hyn ynddyn nhw eu hunain yn hanfodol i’r llwybr tuag at dwf economaidd cryfach yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig gyfan.

“Rydyn ni am weld mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat mewn swyddi o safon uchel, sgiliau a chynhyrchiant.”

Adborth

Mae Paul Davies, gweinidog cysgodol y Ceidwadwyr, yn croesawu’r cynnydd ond fe gyfeiriodd e at adborth o Loegr nad yw’r cymhelliant ar gyfer busnesau’n ddigon hirdymor.

“Mae’r cymhelliant ariannol ar gyfer parthau buddsoddi bron yn union yr un fath â’r cymhelliant ariannol cyfatebol sydd ar gael mewn porthladdoedd rhydd, ac eithrio tolldal,” meddai.

“Ond mae pum mlynedd yn amser byr iawn i ddisgwyl effaith economaidd enfawr.

“Fe fu dadl fod manteision economaidd ar y cyfan wedi bod yn fwy pan oedd pecynnau ariannol ar gael am gyfnod hirach, fel y parthau menter gafodd eu sefydlu ddechrau’r 1990au, lle roedd yr eithriad o gyfraddau busnes ar gyfer cyfnod o ddeng mlynedd.”

‘Cyfle ffug’

Fe wnaeth Luke Fletcher o Blaid Cymru godi pryderon y gallai cwmnïau cydwladol ecsbloetio’r parthau buddsoddi at ddibenion treth heb gyflwyno manteision diriaethol.

Tynnodd yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru sylw at y ffaith fod rhaglen parth menter, gafodd ei arwain gan George Osborne yn 2011 – wedi creu 17,500 o swyddi o gymharu â’r 54,000 gafodd eu crybwyll yn y lle cyntaf.

“Roedd gan bolisi porthladdoedd rhydd trychinebus llywodraeth Thatcher, gafodd ei roi o’r neilltu gan y Torïaid yn 2012, record debyg o dangyflawni ar gyfer yr economïau lleol y cafodd ei dylunio ar eu cyfer.

“A dydy’r wyth parth menter gafodd eu creu gan Lywodraeth Cymru yn 2012 ddim wedi gwneud fawr gwell.”

Yn 2018, cyhoeddodd pwyllgor economi’r Senedd adroddiad ar barthau menter, yn dweud nad oedd nod polisi Cymru o greu twf a swyddi wedi’i gyflawni drwyddi draw.

Galwodd Ken Skates, cyn-weinidog yr economi, am gytundeb cyflym gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddau barth, yn ogystal ag ymrwymiad ar gyllid cyfatebol i Gymru.

Mewn datganiad gerbron y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 7), dywedodd Vaughan Gething fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dalu holl gostau ariannu pob parth buddsoddi.

‘Ffrwyth sy’n hongian yn isel’

Fe wnaeth Alun Davies, cyd-aelod Llafur o’r meinciau cefn, gwestiynu’r penderfyniad i ganolbwyntio ar glystyrau gweithgynhyrchu a lled-ddargludyddion presennol.

Fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd dros Flaenau Gwent ddadlau y dylid cyfeirio arian cyhoeddus at gymunedau sydd ei angen fwyaf, “nid dim ond i’r ardaloedd hynny lle mae yna ffrwyth sy’n hongian yn isel, lle mae modd cael y canlyniadau gorau gyda’r buddsoddiad lleiaf”.

Pwysleisiodd Vaughan Gething nad parthau buddsoddi a phorthladdoedd rhydd yw cyfanswm yr hyn mae gweinidogion Cymru am eu gweld yn cael eu cyflwyno er lles yr economi.

“Bydd angen a rôl o hyd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn sicrhau nad oes gennym ni ddim ond dwy gornel sy’n perfformio’n gymharol dda o gymharu â gweddill Cymru,” meddai.