Mae mam i ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn yn dweud bod Covid-19 wedi cael effaith ofnadwy ar addysg ei merch, a’i bod hi bellach dan ragor o bwysau wrth sefyll arholiadau.

Cymaint yw’r pwysau ar Cadi Alaw Hughes nes ei bod hi’n methu bwyta, ac mae hi wedi colli cryn dipyn o bwysau, meddai ei mam, gan ychwanegu ei bod hi’n grac nad oes canllawiau gwell wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer pobol ifanc wrth sefyll arholiadau, ac nad yw eu gwaith cwrs yn cael ei ystyried.

“Ar hyn o bryd, wythnos yma, TGAU Mathemateg a Saesneg maen nhw’n gwneud, meddai Gwenan Hughes wrth golwg360.

“Mae stress yr arholiadau wedi effeithio arni yn horrendous. Lle dwi’n dechrau?

“Dydy hi ddim yn bwyta.

“Mae hi yn bwyta rywfaint, dim ond am ei bod hi’n gorfod.

“Mae’n dweud fod ei gwddw hi ddim yn gadael iddi lyncu, mewn ffordd.

“Mae’n cael y meltdowns mwyaf ofnadwy.

“Mae hyn rili wedi dechrau ers mis Medi.”

Pryder am ddal Covid-19

Un o brif bryderon Cadi Alaw Hughes yw dal Covid-19, ac mae hyn yn cael cryn effaith ar ei hiechyd meddwl.

Mae Gwenan Hughes wedi gofyn am gael siarad â nyrs yr ysgol, ond mae rhestr aros o fisoedd i siarad â hi.

“Mae plant erbyn hyn yn cael mynd i’r ysgol efo Covid,” meddai’r fam.

“Mae hi’n terrified o Covid.

“Mae hi wedi ei gael o ei hun ddwywaith, ond mae hi’n terrified ohono fo.

“Mae hi’n ofni ei gario fo i rywun arall.

“Pan ddôth Covid i’r amlwg ym Mawrth 2020, roedd y llywodraeth yn dweud, ‘Os ydych yn dal Covid, rydych am farw’.

“Roedd yn ddigon drwg i oedolion orfod dygymod efo hynna.

“Blwyddyn 7 oedden nhw.

“Roedd yn novelty ar y dechrau, dim ysgol, ond wedyn roedd y realiti yn hitio a gwnaeth o effeithio arni hi.

“Mi ddychrynnodd yn ofnadwy, fel pawb rili.

“Mis Medi rŵan, gwnaeth y llywodraeth ddweud geith plant fynd yn ôl i’r ysgol rŵan.

“Roedd hi’n terrified.

“Gwnes i ffonio’r ysgol a gofyn a fyswn yn cael siarad efo nyrs yr ysgol.

“Rydym yn siarad am bob dim yn ein tŷ ni, mae yna rywun constantly yn siarad yn y tŷ yma.

“Mae’r hynaf yn 27, ac mae hi [Cadi] yn 16.

“Doedd beth roedden ni’n ddweud jest ddim yn hitting the mark.

“Cefais lythyr yn dweud ein bod yn gorfod disgwyl tri neu bedwar mis i weld nyrs.

“Roedd yn absolutely horrendous. Dim bai’r ysgol ydy hynna, ond unwaith eto’r llywodraeth.

“Mae hynny wedi bod yn brew-io, ac wedyn mae’r arholiadau yma rŵan wedi bod the top hat.

“Mae hi wedi mynd o fod yn hogan fach hapus llawn bywyd, a fedra’i ddim ond ei disgrifio hi fel broken.

“Mae o’n bechod.

“Mae hi’n edrych arna i, i fi fy llygaid, a dweud ‘Mam, dw i eisiau i hyn stopio’.

“Mae’r dagrau yma’n dod lawr ei hwyneb, a does yna absolutely ddim byd fedra’i wneud, dim fedra’i ddweud na gwneud.

“Mae ei gweld hi fel yna yn awful.”

Effaith Covid ar addysg

Collodd blwyddyn ysgol Cadi Alaw Hughes llawer o ysgol oherwydd Covid, ac mae ei mam yn teimlo y dylid ystyried hyn drwy roi mwy o ystyriaeth i farciau gwaith cwrs disgyblion.

“Roedd hi ym Mlwyddyn 7 pan ddechreuodd y Covid,” meddai.

“Mae ei chriw hi rŵan wedi colli.

“Roedden nhw’n dechrau’r ysgol fawr ym mis Medi, yr ysgol yn cau ym mis Mawrth neu ddechrau mis Ebrill.

“Roedd hi wedi colli pedwar mis o Flwyddyn 7.

“Blwyddyn 7 a Blwyddyn 11, i fi, ydy’r ddwy flwyddyn bwysig.

“Mi gollodd bedwar mis yn y fan yna fel y gweddill ohonyn nhw.

“Mi gollon nhw lawer o Flwyddyn 8, Blwyddyn 9 ydy’r flwyddyn gyntaf gyfan maen nhw wedi’i chael.

“Maen nhw wedi cael Blwyddyn 9, a blwyddyn a dau fis o Flwyddyn 11 rŵan.

“Maen nhw wedi cael llai na hanner beth gafodd plant cyn Covid.

“Maen nhw’n gwneud yr arholiadau yma.

“Yn 2020, doedden nhw ddim yn sefyll arholiadau.

“Roedd y marciau’n cael eu seilio ar waith ysgol.

“Yn 2021, gwnaethon nhw sefyll arholiadau, ond roedden nhw’n cymryd gwaith ysgol a bob dim mewn i ystyriaeth.

“Yr un peth llynedd.

“Eleni, dydy ysgolion ddim yn cael dim arweiniad.

“Dydyn nhw ddim yn cymryd gwaith tymor na gwaith ysgol mewn i ystyriaeth.

“Mae eu marciau nhw yn cael eu seilio ar 2019, sef cyn Covid.

“Gan gofio ’na dim ond dwy flynedd gyfan maen nhw wedi’u cael o addysg, mae’n absolutely disgusting i’r llywodraeth wneud hyn.

“Plant ydyn nhw.

“Maen nhw’n ifanc ofnadwy i fod yn gwneud arholiadau.

“Dwi’n 53, a dydy pethau ddim yn mynd i newid.

“Mae pawb yn gwneud arholiadau yn 16.

“Oherwydd beth sydd wedi digwydd i blant yn y bedair blynedd ddiwethaf, dylai bod rhyw give yn rhywle.

“Mae’n sobor.

“Mae’r straen yn ofnadwy arnyn nhw.”

Siarad â’r prifathro

Pan siaradodd Gwenan Hughes â’r prifathro, eglurodd fod manteision o sefyll arholiadau mor fuan yn y flwyddyn, a’u bod nhw hefyd yn cael y canllawiau gan y Llywodraeth.

“Roeddwn yn barod i gael rant am hyn, ddim yn bersonol ato fo, jest o achos y sefyllfa basically.

“Maen nhw’n gwneud yr arholiadau yma rŵan.

“Mae pob ysgol yn wahanol.

“Mae wedi cadarnhau i mi mai’r llywodraeth sy’n rhoi’r canllawiau yma, ddim yr ysgol.

“Mae fy nhad yn gyn-athro, ac mae’n gwybod sut mae’r pethau yma’n gweithio, mae o’n medru taflu rhyw fath o oleuni ar y pethau yma.

Stats ydy bob dim, er bod y prifathro yn dweud nad stats oedd ei flaenoriaeth o, mewn ffordd.

“Roedd yn gallu cael rownd i fi drwy ddweud, maen nhw’n sefyll yr arholiad rŵan, maen nhw’n cael profiad o sefyll arholiad.

“Mae hynny’n ddigon teg, wna’i dderbyn hynna.

“Mae hefyd yn dweud, os maen nhw’n gwneud yn dda rŵan, fydd dim rhaid iddyn nhw sefyll gymaint yn yr haf. Wna’i dderbyn hynny.

“Roedd hefyd yn dweud, os dydyn nhw ddim yn gwneud yn dda rŵan, gewn nhw ail gyfle i sefyll arholiadau yn yr haf. Roeddwn yn derbyn hynny.

“Un ddadl oedd gennyf i oedd y stats yma, ond roedd o’n gallu cyfiawnhau hynna drwy daflu tri pheth positif yn ôl ata fi fysa’n medru helpu’r plant.

“Dwi’n gwybod bod yna lawer o bobol am groeshoelio’r prifathrawon yn yr ysgolion yma ym mhob man.

“Dwi’n meddwl deep down, dydy o ddim yn mynd i gofio pwy ydy Cadi mewn dwy neu bedair blynedd.

“Mae gynno fo ddadl ddigon teg sydd yn mynd i helpu’r plant, felly dwi’n fodlon derbyn hynny gandda fo.”

Effaith ar fywyd tu allan i’r ysgol

Teimla Gwenan Hughes fod hyn i gyd yn cael cryn effaith ar weithgareddau tu allan i’r ysgol ac ar fywyd cymdeithasol y plant.

Yn ei barn hi, mae ffrindiau ei merch hefyd wedi cael eu heffeithio.

“Mae hi’n aelod o Aelwyd Yr Ynys, criw canu,” meddai.

“Maen nhw mewn Eisteddfodau a phethau.

“Dydy hi ddim eisiau mynd i ymarfer hwnnw.

“Aeth hi i Eisteddfod y Talwrn wythnos i nos Sadwrn diwethaf, a hynna oedd y trigger.

“Roedden nhw’n gwneud cyflwyniad o sioe gerdd yn y fan yna – Joseff.

“Mae hi wrth ei bodd yn gwneud sioe gerdd Joseff.

“Ffoniodd ei thad a dweud, “Wnei di ddod i nôl fi, Dad? Roeddwn bron â llewygu cyn gwneud y sioe’.

“Mae hi jest wedi mynd lawr i rywle tywyll, tywyll, tywyll.

“Roedd hi’n cael ei phen-blwydd ddydd Iau diwethaf yn 16.

“Fel rheol, pwy bynnag sy’n cael pen-blwydd, mae yna sleepover yn nhŷ’r person yna.

“Maen nhw’n mynd am fwyd, maen nhw’n cael sleepover, wedyn maen nhw’n jympio ar drên ac maen nhw’n mynd i Fangor neu Landudno’r diwrnod wedyn yn ystod y dydd.

“Roedd yn hit and miss os oedd y sleepover yma hyd yn oed am ddigwydd.

“Gwnaeth hi fynnu, ‘Dw i eisiau i’r merched ddod’.

“Aethon ni â nhw i ryw le bwyta.

“Roedd hi efo arian a bob dim, a gwnaeth hi ffonio a dweud, ‘Dad, wnei di ddod i ’nôl fi?’

“Roedd hi ond wedi archebu powlen o sglodion, a dim ond wedi bwyta llond llaw ohonyn nhw.

“Daeth hi adref ac roedd hi’n crio, ond roedd hi dal eisiau i’r merched aros.

“Aethon nhw i nunlle’r diwrnod wedyn.

“Roedd y tair arall yn ei llofft efo hi yn ei chysuro hi.

“Mae’n sobor ar Cadi.

“Wedyn, mae rhaid i fi feddwl am ei ffrindiau hi, maen nhw’n mynd trwy’r un peth.

“Maen nhw wedyn, mewn ffordd, yn cario baich Cadi ar ben eu baich nhw eu hunain.

“Mae’n cael knock-on effect arnyn nhw hefyd sydd yr un oed â hi.

“Fel yna rydyn ni ar hyn o bryd.

“Rwy’n lloerig efo’r llywodraeth yma.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae diogelu iechyd meddwl pobol ifanc yn flaenoriaeth lwyr inni,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni wedi buddsoddi £50m yn ychwanegol eleni ar fesurau atal ac ymyrraeth gynnar, i sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno yn gyflym a phan fyddan nhw ei angen fwyaf.

“Rydyn ni hefyd wedi darparu bron i £9m yn 2023-24 i gefnogi lles ym maes addysg er mwyn ymestyn a gwella gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, hyfforddi athrawon a staff eraill yr ysgol ar eu lles eu hunain a lles plant, a sicrhau bod gan ysgolion ymarferwyr iechyd meddwl penodedig drwy gyflwyno darpariaeth mewngymorth CAMHS mewn ysgolion ledled Cymru.

“Mae Cymwysterau Cymru yn gweithio’n agos gyda chyrff dyfarnu, prifysgolion a rheoleiddwyr eraill yn y Deyrnas Unedig i sicrhau nad yw dysgwyr Cymru dan anfantais.

“Bydd Cymwysterau Cymru yn rhoi trefniadau ar waith i sicrhau nad yw graddau’n gostwng yn sylweddol is na’r lefelau cyn y pandemig, sy’n debyg i’r dull a ddefnyddiwyd yn Lloegr y llynedd.”

Ymateb Cyngor Ynys Môn

“Mae pedwar TGAU yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd – Saesneg Iaith, Mathemateg – Rhifedd, Mathemateg a Chymraeg Iaith,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn.

“Ac yn unol â chanllawiau Cymwysterau Cymru, nid oes unrhyw gyfyngiad o ran pwy all gael mynediad i’r arholiadau yma.

“Rydym yn ymwybodol fod disgyblion o rhai ysgolion Uwchradd yn Ynys Môn yn sefyll rhai o’r arholiadau yma, ac mae hyn yn cynnwys Ysgol Uwchradd Bodedern.

“Mae Cymwysterau Cymru wedi cyfathrebu yn glir i ysgolion y bydd cymwysterau TGAU, a gymerir ym mis Tachwedd 2023, Ionawr 2024 a’r haf nesaf yn dychwelyd i ddulliau cyn Covid-19 ac yn cwblhau’r daith arfaethedig ers i drefniadau amgen gael eu rhoi ar waith ar gyfer y pandemig.

“Mae hyn yn golygu na fydd CBAC yn darparu gwybodaeth ymlaen llaw cyn yr arholiadau.

“Ni fydd polisi graddio bras hanner ffordd ychwaith, fel yr oedd yn 2022 a 2023.

“Nod Ysgol Uwchradd Bodedern ydi sicrhau fod eu dysgwyr yn cyrraedd eu potensial, ac fel rhan o hyn wedi rhoi’r cyfle i ddysgwyr sefyll arholiad Saesneg a Rhifedd yn ystod mis Tachwedd.”