Mae cwrs busnes newydd sy’n canolbwyntio ar y diwydiant llaeth ac sydd wedi’i greu gan Cyswllt Ffermio, yn gobeithio helpu’r rhai sy’n newydd i’r sector i ffynnu.

Nod y Bŵtcamp Busnes dwys deuddydd yw rhoi hyder, sgiliau a chymhelliant i newydd-ddyfodiaid i fanteisio ar gyfleoedd, datblygu busnesau effeithlon ac adeiladu gyrfa lwyddiannus.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs preswyl yn cael y cyfle i gael gwybodaeth gan amrywiaeth o siaradwyr, meddai’r trefnydd Eiry Williams o Cyswllt Ffermio.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn y Moody Cow, Fferm Bargoed, Llwyncelyn, Aberaeron, lle bydd y perchennog Geraint Thomas yn rhoi cipolwg ar ei fusnes.

Bydd yr ymweliad â fferm Henbant, lle mae Eilir Evans yn cynhyrchu llaeth o’i fuches llaeth sy’n cynnwys 700 o wartheg, wedi’i rannu’n ddwy uned.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ddydd Mercher, Tachwedd 22 a dydd Iau, Tachwedd 23, a bydd llety ar gael dros nos.

Y siaradwyr

John Crimes, yr ymgynghorydd amaethyddol o CARA Cymru, fydd yn cyflwyno’r modiwlau, a bydd yn rhoi arweiniad ar gytundebau ffermio cyfran a chynlluniau busnes.

Bydd Wyn Owen, yr ymgynghorydd ar newid sefydliadol, yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ganolbwyntio eu meddyliau ar ble maen nhw am fynd nesaf a sut i gyrraedd yno.

Wrth rannu ei stori am ymuno â’r sector, bydd Sam Pearson, ffermwr o Gonwy sy’n fentor Cyswllt Ffermio, yn rhoi cipolwg ar ei hanes a’i system ffermio.

Ffermwr arall fydd yn ymuno yw Matthew Jackson, sydd wedi datblygu i fod yn berchen ar fwy na 1,300 o wartheg ar ôl dechrau o’r dechrau unarddeg o flynyddoedd yn ôl.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn clywed sut y cyflawnodd e hynny, tra bydd yr hyfforddwr corfforaethol Emma Shaw, uwch bartner gyda Real Success, yn cynnig sesiwn ar ddeinameg tîm er mwyn cefnogi mynychwyr i ymdrin â phobol yn fwy effeithiol.