Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ychwanegu eu lleisiau at y rhai yng Nghymru sy’n galw am gadoediad rhwng Israel a Phalesteina yn Gaza.
Yn ôl adroddiad diweddar gan y BBC, mae tua thraean o Aelodau’r Senedd yn cefnogi cadoediad ar unwaith yn y frwydr sydd wedi arwain at 7,000 o farwolaethau ymhlith sifiliaid ar y naill ochr a’r llall.
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fod angen cadoediad er mwyn galluogi cyflenwadau meddygol a bwyd i gyrraedd Gaza.
‘Gweithio tuag at ddatrysiad dwy wladwriaeth hirdymor’
Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod hi’n “poeni’n fawr” y bydd rhagor o drais yn Gaza.
“Dw i’n credu bod rhaid cytuno ar gadoediad ar unwaith fel y gallwn ni weithio tuag at gyflwyno datrysiad dwy wladwriaeth hirdymor,” meddai.
“Mae sifiliaid diniwed, gan gynnwys miloedd o blant, yn cael eu rhoi mewn perygl mewn gwrthdaro sydd eisoes wedi hawlio bywydau dros 7,000 o bobol.
“Rŵan ydi’r amser am gadoediad ar unwaith yn y rhyfel, fel y gall cymorth meddygol a bwyd mawr ei angen fynd i mewn i Gaza.
“Dydy pobol Gaza ac Israel ddim yn haeddu dioddef marwolaeth a dinistr; maen nhw’n haeddu heddwch cyfiawn.”