Mae’r gwaharddiad ar feddu ar ocsid nitrus yn dod i rym heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 8), gyda throseddwyr cyson yn wynebu hyd at ddwy flynedd o garchar.

Mae’r gosb fwyaf difrifol am gyflenwi ‘nwy chwerthin’ yn dyblu i 14 o flynyddoedd, tra bydd eithriadau ar gyfer defnydd dilys.

Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi eu haddewid ar waith i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd ocsid nitrus bellach yn gyffur Dosbarth C, sy’n golygu bod ei fewnanadlu at ddibenion seicoweithredol bellach yn drosedd.

Gallai troseddwyr wynebu dirwy ddi-ben-draw, cosb gymunedol, rhybudd fyddai’n ymddangos ar eu cofnod troseddol, a chyfnod o garchar am y troseddau mwyaf difrifol.

Cyflwyno camau mwy llym

Yn gynharach eleni, fe wnaeth y Swyddfa Gartref annog heddluoedd i fod yn fwy llym o ran cyffuriau mewn cymunedau.

Mae ocsid nitrus wedi’i gysylltu’n helaeth ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys bygwth pobol wrth ymgasglu ar y stryd ac mewn parciau i blant, a gadael offer mewn mannau cyhoeddus.

Mae defnyddwyr hefyd yn cael eu rhybuddio am y peryglon iechyd maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys afiechydon gwaed, niwed i’r nerfau neu barlys, ac fe all arwain at farwolaeth yn yr achosion mwyaf difrifol ar y ffyrdd.

Yn ôl Chris Philp, Gweinidog Plismona San Steffan, mae’r gwaharddiad yn “anfon neges glir at bobol, yn enwedig pobol ifanc” a bydd troseddwyr “yn wynebu’r canlyniadau”.

“Am yn rhy hir, mae’r defnydd o’r cyffur hwn mewn mannau cyhoeddus wedi cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n bla ar gymunedau,” meddai.

“Wnawn ni ddim ei dderbyn.”

Bydd modd ei ddefnyddio mewn rhai achosion dilys, gan gynnwys fel lladdwr poen ar wardiau mamolaeth, dibenion diwydiannol, deintyddiaeth a sawl maes arall.

Fydd dim angen trwydded er mwyn bod â’r cyffur, ond bydd angen i ddefnyddwyr ddangos bod ganddyn nhw’r cyffur am resymau dilys, cyfreithlon ac nad ydyn nhw’n bwriadu ei gamddefnyddio.

Bydd cyfrifoldeb ar werthwyr hefyd i sicrhau bod gan brynwyr fwriad dilys, a byddai esgeuluso’r cyfrifoldeb hwnnw hefyd yn cael ei gyfrif yn drosedd.

Mae grwpiau sy’n gwarchod eu cymunedau, yn ogystal â Chymdeithas Diwydiannau’r Nos, yn cefnogi’r gwaharddiad, ond yn galw am ragor o addysg ynghylch y peryglon.