Mae cynghorydd o Wynedd am gerdded 30 milltir i nodi blwyddyn ers i daith bws ddod i ben.

Ar Chwefror 11 y llynedd, daeth y daith fws T19, sy’n teithio o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno, i ben.

Mae’n gadael cymunedau yng Ngwynedd a Chonwy heb wasanaeth bws sy’n angenrheidiol i nifer allu cyrraedd yr ysgol a’r colegau, eu lleoliadau gwaith, i gasglu bwyd ac i gyrraedd apwyntiadau ysbyty, yn ôl y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn.

Cafodd y gwasanaeth ei ddiddymu gan nad oedd yn ariannol hyfyw i’r cwmni bysiau preifat oedd yn ei redeg.

Bydd Elfed Wyn ab Elwyn yn cerdded y 30 milltir o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno fore Sul (Chwefror 11), gydag etholwyr, cyfeillion a chyd-gynghorwyr yn ymuno ag o ar rannau o’r daith.

Y bwriad yw nodi blwyddyn gron ers diddymu’r gwasanaeth gan adael pobol leol yn “amddifad” o drafnidiaeth gyhoeddus.

‘Pam bod ardaloedd gwledig yn cael eu colbio unwaith eto?’

Yn ôl Elfed Wyn ab Elwyn, dydy’r gwasanaeth trenau sy’n rhedeg ar yr un llwybr ddim yn datrys y broblem, ac mae’r gymuned wedi’i gadael mewn sefyllfa sydd “ddim yn dderbyniol o gwbl”.

“Dw i’n ofnadwy o flin am y sefyllfa,” meddai’r cynghorydd sy’n cynrychioli Plaid Cymru yn Ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog.

“Mae’r Llywodraeth Lafur a Thrafnidiaeth Cymru wedi gadael fy nghymuned i heb ddarpariaeth hanfodol.

“Fyddai’r math yma o sefyllfa ddim yn digwydd mewn trefi mawrion a dinasoedd yng Nghymru.

“Felly pam bod ardaloedd gwledig yn cael eu colbio unwaith eto?”

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes angen sefydlu gwasanaeth newydd, gan fod gwasanaeth trenau yn rhedeg ar hyd yr un llwybr.

“Dydy’r gwasanaeth trên ddim yn rhedeg yn ddigon aml ac mae problemau cyson gyda’r lein oherwydd effeithiau’r tywydd,” meddai Elfed Wyn ab Elwyn.

“All pobol leol ddim cyrraedd eu hapwyntiadau yn Ysbyty Llandudno, er enghraifft, oherwydd y problemau yma.

“All disgyblion ddim cyrraedd yr ysgol, heb orfod codi yn blygeiniol o fore a disgwyl y tu allan i adeilad yr ysgol i’r drysau agor.

“Dyw’r sefyllfa ddim yn dderbyniol o gwbl.”

Mae’r cynghorydd wedi cysylltu â Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac roedd wedi codi’r mater ar lawr y Senedd yng ngwanwyn 2023.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn nhafarn y Queens yn Blaenau Ffestiniog naw mis yn ôl, ac roedd ymateb y 50 o drigolion fynychodd yn chwyrn.

“Er anfon gohebiaeth yn holi am ddiweddariadau ar sawl achlysur dros y misoedd diwethaf, mae Lee Waters wedi bod yn araf iawn yn ymateb i’m cais am wybodaeth frys am y sefyllfa ddiweddaraf,” meddai wedyn.

“Nid yw’r llythyr a dderbyniwyd dros y dyddiau diwethaf yn mynd i’r afael â’r broblem a’r pryderon am lwybr y T19 o’r Blaenau i Landudno.

“Fy ngobaith, trwy gerdded y 30 milltir yn ystod dydd Sul, 11 o Chwefror, yw atgoffa’r Llywodraeth a’r gwleidyddion yng Nghaerdydd ein bod ni’n parhau i frwydro dros drigolion lleol yn yr ardal wledig hon.”

‘Ergyd drom i ddefnyddwyr’

Yn ymuno ag Elfed Wyn ab Elwyn ar rannau o’r daith yn sir Conwy fydd ei gyd-gynghorwyr Plaid Cymru – Liz Roberts, sy’n cynrychioli trigolion Dolwyddelan a Betws y Coed, a Nia Clwyd Owen ac Aaron Wynne, cynghorwyr sir dros Lanrwst.

Roedd y gwasanaeth bws T19 yn teithio drwy Ddolwyddelan a Llanrwst cyn cyrraedd pen ei daith yng Nghyffordd Llandudno.

“Dw i’n croesawu ymgyrch Elfed ac yn llwyr gefnogi ei ymdrechion,” medd y Cynghorydd Nia Clwyd Owen.

“Mae colli gwasanaeth y T19 yn ergyd drom i ddefnyddwyr Dyffryn Conwy hefyd.

“Roedd nifer o’m trigolion yn dibynnu ar y gwasanaeth er mwyn cael mynediad at wasanaethau sylfaenol megis apwyntiadau iechyd, bancio, ymweld â’r llyfrgell, siopa yn ogystal â chyflogaeth ac addysg.

“Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar ein trigolion, ac mae cost defnyddio trenau yn llawer uwch na’r gwasanaeth bysiau.”

‘Parhau i frwydro’

Mae’r cynghorwyr wedi cysylltu â Lee Waters, ac roedd y mater wedi cael ei godi yn y Senedd gan Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, y llynedd.

“Er anfon gohebiaeth yn holi am ddiweddariadau ar sawl achlysur dros y misoedd diwethaf, mae Lee Waters wedi bod yn araf iawn yn ymateb i’m cais am wybodaeth frys am y sefyllfa ddiweddaraf,” meddai Elfed Wyn ab Elwyn.

“Nid yw’r llythyr a dderbyniwyd dros y dyddiau diwethaf yn mynd i’r afael â’r broblem a’r pryderon am lwybr y T19 o’r Blaenau i Landudno.

“Fy ngobaith, trwy gerdded y 30 milltir yn ystod dydd Sul, 11 o Chwefror, yw atgoffa’r Llywodraeth a’r gwleidyddion yng Nghaerdydd ein bod ni’n parhau i frwydro dros drigolion lleol yn yr ardal wledig hon.”