Mae penderfyniad Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i fetio ar gynllun Rwanda yn “gwbl ffiaidd”, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.
Mae Rishi Sunak wedi derbyn bet o £1,000 y bydd awyrennau yn hedfan i Rwanda cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Mewn cyfweliad ar TalkTV, fydd yn cael ei ddarlledu heno (dydd Llun, Chwefror 5), mae’r cyflwynydd a newyddiadurwr Piers Morgan yn betio £1,000 – fydd yn cael ei roi i elusen ffoaduriaid – na all y Prif Weinidog “gael neb ar yr awyrennau cyn yr etholiad”.
Cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw symud ceiswyr lloches i Rwanda, ac mae Bil Rwanda yn mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn bryd.
Mae pryderon nad yw Rwanda yn lle diogel, ynghyd â pherygl y byddan nhw’n cael eu hanfon yn ôl i wledydd peryglus yn y pen draw.
Wrth ysgwyd llaw Piers Morgan, mae’n ymddangos bod Rishi Sunak yn derbyn y bet, a dywed ei fod e eisiau pobol ar yr awyrennau.
“Dw i’n gweithio’n andros o galed i gael pobol ar yr awyrennau,” meddai.
‘Cywilydd ar Sunak’
Wrth ymateb i’r bet, dywed Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, fod “cywilydd ar Sunak”.
“Mae cael Prif Weinidog sy’n cymryd betiau ar ddyfodol pobol fregus yn gwbl ffiaidd,” meddai.
Ychwanega Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod y Prif Weinidog “yn llythrennol yn gamblo gyda bywydau pobol, gyda gwên ar ei wyneb”.
“Mae’r Llywodraeth Dorïaidd yma yn San Steffan yn llygredig i’r byw,” meddai.
Bil Rwanda
Dan gynllun Rwanda, roedd disgwyl i’r awyren gyntaf adael am Affrica ym mis Mehefin 2022, ond cafodd ei hatal yn sgil heriau cyfreithiol.
Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaeth Uchel Lys y Deyrnas Unedig ddweud bod y cynllun yn anghyfreithlon.
Ers hynny, mae’r llywodraeth wedi cyflwyno bil newydd i ddweud, dan gyfraith y Deyrnas Unedig, fod Rwanda yn wlad ddiogel.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gorchymyn y llysoedd i ddiystyru rhannau hanfodol o’r Ddeddf Hawliau Dynol, er mwyn ceisio ochrgamu dyfarniad yr Uchel Lys.
Eisoes, mae’r Bil wedi pasio yn Nhŷ’r Cyffredin, ac er ei fod wedi derbyn gwrthwynebiad yn Nhŷ’r Arglwyddi, maen nhw wedi pleidleisio dros ei symud i’r cam nesaf.
Fodd bynnag, mae rhai o’r Arglwyddi wedi dweud y byddan nhw’n ceisio tynnu rhai o’r prif bwerau o’r bil.