Mae Bil Rwanda yn amlygu “agweddau peryglus” ac yn mynd yn agos at dorri cyfraith ryngwladol, yn ôl yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.
Daw ei sylwadau wedi i bedwar Aelod Seneddol Ceidwadol gamu o’u swyddi am eu bod nhw am gefnogi gwelliannau maen nhw’n credu fyddai’n cryfhau’r Bil.
Ymysg yr aelodau diweddaraf i gamu o’r neilltu mae Lee Anderson a Brendan Clarke Smith, ac mae Emyr Lewis o’r farn eu bod nhw’n dangos “agweddau peryglus.”
“Y rheswm bod y criw yna o bobol am bleidleisio yn erbyn y Bil yw oherwydd eu bod nhw’n rhagweld nad ydy o’n ddigon cyfangwbl gryf yn ymwrthod â hawl y llysoedd i ymyrryd,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw’n credu bod angen deddfu i ymwrthod â’r Confensiwn Hawliau Dynol Ewropeaidd yn fwy cadarn.”
Ychwanega fod “pryder go iawn” y bydd y math yma o agweddau’n treiddio i mewn i gymdeithas os ydyn nhw’n cael eu ffordd nhw eu hunain.
“Dydy gorthrymu lleiafrifoedd byth yn edrychiad da,” meddai.
“Ond mae yna rai pobol fel tasen nhw’n ymfalchïo yn y syniad eu bod yn gallu sgwario a bod yn galed efo pobol sydd, yn y pen draw, yn ffoi erledigaeth.”
‘Anfoesol’
Yn ei hanfod, bwriad y Bil yw anfon ceiswyr lloches sy’n ceisio cyrraedd gwledydd Prydain i Rwanda.
Fodd bynnag, mae pryderon nad yw Rwanda yn lle diogel iddyn nhw, ynghyd â pherygl y byddan nhw’n cael eu hanfon yn ôl i wledydd peryglus yn y pen draw.
“Y cwestiwn cyntaf ydi, a yw hi’n foesol dderbyniol bod gwlad led gyfoethog a datblygedig fel y Deyrnas Gyfunol yn troi ffoaduriaid i ffwrdd,” meddai Emyr Lewis.
“Ond gadewch i ni anghofio am hynny a throi at dermau cyfreithiol.
“Mae yno ddyletswydd ar wledydd i roi lloches i bobol sydd yn ffoi gormes ac ati.
“Mae yna ddyletswydd hefyd i sicrhau nad ydy pobol yn cael eu dychwelyd i sefyllfa beryglus.
“Un o’r problemau gyda’r ddeddfwriaeth yma ydy bod Goruchaf Lys y Deyrnas Gyfunol eisoes wedi dweud bod yna berygl, os yw pobol yn cael eu gyrru i Rwanda i gael eu prosesu, y bydden nhw yn cael eu gyrru yn ôl i fannau peryglus.”
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, hefyd wedi beirniadu anfoesoldeb y cynlluniau.
“Mae’r Torïaid mewn anhrefn unwaith yn rhagor dros bwy gall fod fwyaf creulon tuag at ffoaduriaid,” meddai.
“Gall croesi cychod bach gael ei atal drwy agor canolfannau prosesu yn Ffrainc a chreu llwybrau diogel o barthau ble mae gwrthdaro.
“Dydy Bil Rwanda ddim yn bolisi sydd o ddifrif.
“Dydy San Steffan ddim yn senedd o ddifrif.”
Torri cyfraith ryngwladol?
Ychwanega Emyr Lewis fod yna dystiolaeth hefyd nad yw cyfundrefn loches na chyfundrefn apeliadau Rwanda’n gweithio’n dda nac yn cwrdd â’r safonau angenrheidiol o ran bod yn ddiduedd.
Fodd bynnag, byddai’r Bil yn sicrhau bod Rwanda yn lloches sy’n ddiogel yn ôl y gyfraith, ac yn atal gallu’r llysoedd i ymyrryd â phenderfyniadau yn sgil hynny.
“Mae hi’n eithaf sicr bod y ddeddfwriaeth yma yn mynd i fynd yn agos at, os nad yw hi’n torri darpariaethau cyfraith ryngwladol gan gynnwys darpariaethau Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop,” meddai Emyr Lewis wedyn.
“Fy mhrif wrthwynebiad i’r Ddeddf yw ei fod o’n gam pellach tuag at y Deyrnas Gyfunol yn eithrio ei hun rhag y cysyniad bod yna gyfrifoldeb ar wladwriaethau i gyd-fynd â rhai dyletswyddau sy’n gyffredin ar draws Ewrop a’r byd er mwyn diogelu pobol fregus a phobol sy’n agored i niwed.
“Ac mae hynny’n farn beryglus iawn yn fy marn i.”