Mae Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru wedi gwneud datganiad ynghylch dogfen cyngor sy’n awgrymu y gellid ailgyflwyno tollau Pont Hafren – ar ôl i weinidog arall ddweud na fyddai’n gwneud sylw.

Cafodd Cyngor Sir Fynwy, sydd dan arweiniad Llafur, eu beirniadu gan wleidyddion Ceidwadol, gan gynnwys David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Mynwy, ym mis Rhagfyr ar ôl i’w cynllun trafnidiaeth godi’r syniad.

Er nad oes gan y Cyngor y grym i godi tâl ar yrwyr sy’n croesi Pont Tywysog Cymru neu Bont Hafren yng Nghas-gwent, roedden nhw wedi rhestru lobïo i ailgyflwyno’r tâl gafodd ei ddileu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2018 fel cynllun posib i’w gefnogi yn eu cynllun trafnidiaeth oedd yn destun ymgynghoriad tan ddechrau mis Ionawr.

Gofyn am ddatganiad

Fe wnaeth Laura Anne Jones, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ofyn am ddatganiad ynghylch yr awgrym yn ystod trafodaeth ffurfiol ynghylch pa faterion ddylid eu codi yn Senedd Cymru.

Gofynnwyd i Lesley Griffiths, sy’n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth Lafur yn rhinwedd swydd y Trefnydd, a fyddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn gwneud datganiad ynghylch unrhyw sgyrsiau gafodd e ynghylch ailgyflwyno’r tollau nad ydyn nhw’n cael eu hystyried gan y Cyngor, yn ôl yr arweinydd Llafur.

“Byddai’r cam hwn yn drychineb gan y byddai, wrth gwrs, yn niweidio busnesau lleol – rhan o’r rheswm pam fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweld yn iawn i’w dileu nhw – yn troi buddsoddwyr i ffwrdd, yn troi twristiaeth i ffwrdd rhag dod i fy rhanbarth i yng Nghymru, a byddai cynllun Llafur i ailgyflwyno tollau Pont Hafren yn dreth arall eto fyth ar drigolion a busnesau sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu,” meddai Laura Anne Jones.

“Felly hoffwn i’r gweinidog gyhoeddi datganiad yn amlinellu pa sgyrsiau gafodd e gyda Llywodraeth Cymru a hefyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch hyn, gan ei bod yn hanfodol bod y syniad hwn yn cael ei roi o’r neilltu cyn iddo fagu coesau.”

Gwrthod

Ond gwrthododd Lesley Griffiths y cais am ddatganiad.

“Fy nealltwriaeth i yw fod hwn yn werthusiad o opsiynau,” meddai.

“Eto, dw i ddim yn ei ystyried yn fater i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.”

‘Dim cynlluniau’

Bellach, mae Lee Waters yn dweud nad oes cynlluniau – ac na fu cynlluniau erioed – i ailgyflwyno’r tollau ar Bontydd Hafren.

Codd Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, y mater yn y Senedd gan ddweud bod y cynlluniau “wedi’u cuddio” a bod y Cyngor yn dweud y gallai “leihau teithiau i Fryste ac yn ôl mewn ceir preifat a lleihau traffig ar yr M4 a’r M48”.

Dywedodd yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru y byddai ailgyflwyno’r tollau’n cael “effaith ddinistriol ar drigolion, busnesau a gyrwyr ac yn hoelen olaf yn arch ein heconomi”.

“O ran diddordeb, ydych chi’n cefnogi dychwelyd at y tollau, ac a fyddwch chi’n pwyso ar eich cydweithwyr Llafur yn y Cyngor i sicrhau nad yw’r syniad erchyll yma’n magu coesau?”

Dywedodd Lee Waters fod y Cyngor wedi cynnwys y syniad yn eu cyllun i edrych ar “gyfres gyfan o bethau”, ond eu bod nhw “wedi dod i’r casgliad yn yr achos yma nad dyna’r ffordd ddymunol i symud ymlaen”.

“Mae hi [Natasha Asghar] yn gwybod hynny’n iawn,” meddai.

“Does dim cynlluniau i ailgyflwyno’r tollau ar Bont Hafren, fu yna ddim cynlluniau erioed, ac roedd yn syml iawn yn edrych ar yr holl opsiynau, sef y peth cyfrifol i’w wneud.

“Fydden nhw ddim yn cyflawni eu dyletswyddau pe na baen nhw’n edrych ar yr holl opsiynau.”

Dywed fod “gofyniad cyfreithiol” i’r Cyngor greu cynllun trafnidiaeth ac i ystyried yr holl opsiynau yn rhan o hynny.

Dywed Cyngor Sir Fynwy fod y cyfrifoldeb am greu’r fath gynlluniau bellach wedi’u trosglwyddo i bwyllgorau cyfun y cynghorau rhanbarthol, ond eu bod nhw wedi creu eu cynllun eu hunain er mwyn dylanwadu ar ddogfen de-ddwyrain Cymru yn ogystal â mynd i’r afael â materion trafnidiaeth penodol yn y sir.

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog feirniadu dulliau Natasha Asghar a’i “gafael” ar bolisi trafnidiaeth a sut y caiff ei lunio.