Pobol o deuluoedd incwm isel fyddai’n cael eu heffeithio waethaf gan doriadau i brentisiaethau, yn ôl ymchwil Colegau Cymru.
Mae Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025 yn cynnig toriad o bron i 25% i’r rhaglen brentisiaethau.
Yn ôl Prif Weithredwr Colegau Cymru, mae eu hymchwil yn dangos y byddai hynny’n golygu fod 10,000 yn llai o brentisiaid yn dechrau yn ystod y flwyddyn academaidd newydd newydd – sydd yn ostyngiad o tua 50%.
Mae ymchwil pellach gan Goleg Caerdydd a’r Fro yn dangos bod colli 10,000 o brentisiaid y flwyddyn gyfystyr â cholli £84m i economi Cymru.
“O’r modelu mae ein dadansoddiad yn dangos y bydd y toriadau hynny’n effeithio waethaf ar bobol o deuluoedd sydd ar yr incymau isaf, felly’r tlotaf a’r rhai sydd angen y gefnogaeth fwyaf fydd yn dioddef yr effaith waethaf o’r toriadau,” meddai Dave Hagendyk, Prif Weithredwr Colegau Cymru, wrth golwg360.
Mae Plaid Cymru’n cynnal trafodaeth yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 17) ar bwysigrwydd prentisiaethau i economi a gweithlu Cymru.
“Prif gryfder prentisiaethau ydy’u bod nhw’n rhoi cyfle i bobol ddysgu ac ennill yr un pryd, ond mae hi’n rhaglen sy’n cefnogi pobol sydd eisiau dechrau eu gyrfa drwy fod yn y gweithle ac astudio a chael cymwysterau,” meddai Dave Hagendyk.
“Dyma un o’n pryderon mawr, be sy’n digwydd os ydy’r llwybr hwn yn cau i filoedd o bobol ifanc, yn benodol, lle maen nhw’n mynd? Ydyn nhw’n mynd i swyddi incwm isel? Ydyn nhw’n mynd i astudio rhywbeth dydyn nhw ddim wir eisiau ei wneud?”
‘Angen prentisiaethau i greu Cymru decach, gryfach a gwyrddach’
Yn ôl Plaid Cymru, mae ymchwil yn dangos bod 80% o gwmnïau bychain yng Nghymru wedi cael trafferth recriwtio dros y deuddeg mis diwethaf yn sgil prinder sgiliau.
“Un o effeithiau’r rhaglen brentisiaethau, pan mae Llywodraeth Cymru’n siarad am greu Cymru’n sy’n decach, cryfach a gwyrddach, mae bob un dim maen nhw eisiau ei wneud yn digwydd drwy addysg bellach,” meddai Dave Hagendyk.
“Os ydych chi eisiau cyrraedd sero net yna mae’n rhaid i chi gael gweithlu sydd gan y sgiliau, a dyna’n union mae prentisiaethau ac addysg bellach yn ei greu.
“Os ydych chi eisiau Cymru iachach a chael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’u hyfforddi’n dda, yna maen nhw’n dod drwy brentisiaethau a thrwy ein colegau.
“Rydyn ni’n cydnabod fod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd iawn efo’r gyllideb, ond ar yr un pryd, rydyn ni yn meddwl fod y pethau maen nhw eisiau eu cyflawni’n dibynnu ar raglen brentisiaethau a sector addysg bellach sydd wedi’u hariannu’n dda.”
Wrth edrych ar y gyllideb, gafodd ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru cyn y Nadolig, mae’n “amlwg mai un o’r penderfyniadau mawr mae’r Llywodraeth wedi’i wneud ydy tynnu cyllideb sy’n gwneud iawn am golli cyllidebau cymdeithasol Ewropeaidd,” meddai Dave Hagendyk.
“Felly fydden ni’n hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi’r £18m yn ôl yn y rhaglen.
“Pe bai £18m yn cael ei roi’n ôl yn y rhaglen, byddai’n caniatáu i ni liniaru rhai o’r colledion mawr.
“Dw i’n gwybod ei fod e’n anodd i Lywodraeth Cymru’n sgil yr hinsawdd ariannol, ond mae’n ymwneud â buddsoddi yn y dyfodol a buddsoddi yn ein blaenoriaethau.
“Rydyn ni’n meddwl fod y dylai’r rhaglen brentisiaethau fod ar flaen y ciw i gael rhai o’r adnoddau hynny yn ôl.”
‘Annheg’
Dywed Luke Fletcher, llefarydd yr economi Plaid Cymru, fod gan brentisiaethau “rôl hanfodol yn cyflenwi gweithwyr â sgiliau i’r farchnad swyddi”.
“Mae toriadau Llafur i wariant ar brentisiaethau’n edrych fel ein bod ni am weld llawer llai o brentisiaid yn dechrau eleni,” meddai cyn y drafodaeth yn y Senedd.
“Bydd hyn yn cael effaith anghymesur ar bobol ifanc a menywod gan fod dros 50% o brentisiaid yn fenywod yn y blynyddoedd diwethaf.
“Mae hyn yn annheg a bydd yn cael effaith negyddol iawn ar ein heconomi.
“Rydyn ni’n dioddef prinder gweithwyr crefftus yn barod, a bydd y diffyg rhagwelediad a chyllid yn gwneud y sefyllfa’n llawer gwaeth.
“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur ddadwneud y cynllun i dorri cyllideb prentisiaethau.”
‘Dal i fuddsoddi’
Er bod y cyllidebau’n gostwng, bydd Llywodraeth Cymru yn dal i “fuddsoddi mewn prentisiaethau o safon ac yn darparu dyfodol llwyddiannus i’n pobl ifanc”, medd llefarydd ar eu rhan.
“Rydyn ni’n gweld manteision hirdymor prentisiaethau i unigolion- drwy adeiladu gyrfaoedd cryf ac ennill gwell cyflog yn y tymor hir – yn ogystal â manteision i’r economi gyfan.
“Gyda gostyngiad yn llawer llai nag mewn llinellau cyllideb eraill, byddwn yn buddsoddi £138m y flwyddyn nesaf mewn prentisiaethau o safon sy’n darparu buddion tymor hir a gyrfaoedd cryfach.”