Mae elusen sy’n rhoi cyfleoedd cymdeithasol i ffermwyr sydd wedi pasio oed y Ffermwyr Ifanc yn gobeithio agor mwy o glybiau.

Elusen Tir Dewi sy’n gyfrifol am agor Clybiau Ffermwyr ledled y gogledd, mewn ymgais i leihau unigrwydd ac ynysiad ymysg pobol sy’n gweithio yn y diwydiant amaeth, a gwella’u hiechyd meddwl.

Cafodd y Clwb Ffermwyr cyntaf ei sefydlu ym Môn yn 2022, ac maen nhw’n cwrdd unwaith y mis mewn lleoliadau ledled yr ynys, gyda thua 35 o bobol yn dod yn gyson.

Mae’r gweithgareddau’n amrywio o saethu bwa saeth i nosweithiau pŵl, i ymweliadau fferm a sgyrsiau gan sefydliadau amaethyddol.

‘Cyfle i siarad’

Yn sgil y llwyddiant ar Ynys Môn, mae Tir Dewi wedi sefydlu clybiau ym Mhen Llŷn a Chlwyd, ac mae ardaloedd Caernarfon a Chonwy wedi dangos diddordeb hefyd.

“Mae llawer o ffermwyr ac aelodau o’u teuluoedd wedi bod yn aelodau o Glybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI), sef clybiau i bobol ifanc rhwng 10 a 28 oed,” meddai Ceinwen Parry, cydlynydd y clybiau.

“Mae CFfI yn rhoi cyfleoedd i bobol ifanc gymdeithasu a chystadlu gyda’i gilydd, ac yn rhoi rheswm iddyn nhw adael y fferm yn gyson a bod yn rhan o gymuned ehangach.

“Wedi gadael CFfI, does dim clybiau tebyg ar gael i’r bobol ifanc ac maen nhw’n dychwelyd i’r fferm i weithio oriau hir mewn awyrgylch brysur, yn aml dan bwysau. Mae ffermio yn gallu bod yn waith unig ac anghymdeithasol iawn.

“Ein syniad ni felly oedd creu clwb i ffermwyr dros 28 a’u teuluoedd fel bod ganddyn nhw reswm i fynd allan a chyfarfod pobol eraill o’r gymuned amaethyddol, ac yn bwysicach na dim, cael cyfle i siarad.

“Mae ffermwyr sydd wedi ymddeol hefyd yn mwynhau dod gan ei fod yn lle da i gadw mewn cysylltiad gyda phobol o’r un cefndir a phrofiad â nhw.”

Nia Hughes, Swyddog Ariannu gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Ceinwen Parry, Tir Dewi

‘Ynysrwydd yn broblem fawr’

Yn ôl Tir Dewi, gall ffermwyr ofyn cwestiynau a thrafod yn agored yn y clwb heb boeni a hel meddyliau adref.

“Mae ynysrwydd yn gallu bod yn broblem fawr yn y byd amaeth – oni bai bod rheswm da i adael y fferm, mae ffermwyr yn aml yn aros gartref,” meddai Ceinwen Parry.

“Mae’r Clwb Ffermwyr yn rhoi rheswm iddyn nhw adael y fferm; yn rhoi cyfle i gymdeithasu, sgwrsio, chwerthin a chael hwyl, ac weithiau i ddysgu.

“Mae cymaint o’r llefydd traddodiadol y byddai ffermwyr yn arfer cyfarfod wedi diflannu – llawer o gapeli ac eglwysi wedi cau, tafarndai lleol yn fwy prin, ac mae’r marchnadoedd da byw hyd yn oed wedi newid eu ffordd o weithredu ers Covid-19, felly mae ffermwyr yn treulio llai o amser yno erbyn hyn hefyd.”

‘Gwaith gwych’

Derbyniodd Tir Dewi £8,850 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo gyda’r gwaith o sefydlu’r clybiau, a’r bwriad yn y pen draw yw y bydd gan bob clwb ddau swyddog – trysorydd ac ysgrifennydd – fydd yn gyfrifol am y clwb lleol gyda chefnogaeth Tir Dewi a’r Clybiau Ffermwyr.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi’r project hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol,” meddai Nia Hughes, Swyddog Ariannu yn y gogledd i Gronfa Gymunedol y Loteri.

“Mae cymuned wrth galon ein pwrpas, ein gweledigaeth a’n henw a does dim dwywaith fod Tir Dewi yn gwneud gwaith gwych yn dod â’r gymuned amaethyddol ynghyd a’u cefnogi o ran iechyd meddwl a lles.

“Edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.”