Bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru’n cymryd pob cyfle i grybwyll sefyllfa’r is-bostfeistri gafodd eu cyhuddo ar gam gyda Llywodraeth San Steffan, yn ôl y Prif Weinidog.
Cafodd Mark Drakeford ei holi gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 16) ynglŷn â pha gamau maen nhw’n eu cymryd ar ran yr is-bostfeistri o Gymru gafodd eu dal yn yr helynt.
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi codi cwestiynau am y sefyllfa mewn llythyr i San Steffan ar Fedi 1, 2021, ond na chawson nhw ateb am chwe mis.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, y byddai’n cyflwyno deddf newydd er mwyn gwyrdroi euogfarnau dros 700 o is-bostfeistri gafwyd yn euog ar gam o dwyll yn sgil methiannau yn system gyfrifiadurol Horizon.
Byddan nhw hefyd yn derbyn iawndal o hyd at £75,000.
‘Camwedd cyfiawnder mwyaf’
Roedd gwraig Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru, yn rheolwr yn Swyddfa’r Post eu pentref ar y pryd, a phan ddaethon nhw o hyd i broblemau gyda’r system gyfrifiadurol a thrio’u gorau i’w datrys.
“Rhwng 1999 a 2015, cafodd dros 700 o is-bostfeistri eu cyhuddo o dwyll, cadw cyfrifon ffug neu ddwyn – y camwedd cyfiawnder mwyaf yn hanes y Deyrnas Unedig,” meddai Mark Isherwood.
“Yn ei drafodaeth gyda Chymdeithas Hansard yr wythnos ddiwethaf, dywedodd James Arbuthnot, y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol sydd nawr yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi wnaeth arwain ymgyrch seneddol i archwilio camweddau yn Swyddfa’r Post, nodi pan ysgrifennodd at Weinidog y Deyrnas Unedig yn 2009 ei fod e wedi cael gwybod fod hwn ‘yn fater cytundebol ar wahân i Swyddfa’r Post. Mae gennym ni drefniadau ‘hands-off’ gyda Swyddfa’r Post, felly dyw e ddim i wneud â’r Llywodraeth’.
“Yn ystod y trafodaethau, roedd sôn bod 17 gweinidog wedi bod yn gyfrifol am Swyddfa’r Post yn ystod y sgandal, a bod ‘Tŷ’r Arglwyddi am ystyried Bil Ad-daliad Swyddfa’r Post (Systemau Horizon), sef y ddeddfwriaeth gafodd ei haddo yn Araith y Brenin a’i chynnig’.
“Felly, pa gynrychiolaeth ar ran yr is-bostfeistri gafodd eu heffeithio yng Nghymru fydd Llywodraeth Cymru’n ei wneud o ystyried hyn a’r ddeddfwriaeth gafodd ei chyhoeddi gan y Prif Weinidog i glirio enwau’r is-bostfeistri gafodd eu cyhuddo o gamweddau yn sgil y sgandal hwn?”
‘Cymryd pob cyfle’
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford yn y Senedd eu bod nhw am gymryd pob cyfle i barhau i godi’r mater, ond eu bod nhw wedi bod yn gwneud hynny ers tro.
“Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cyfarfod â chyd-Weinidogion ledled y Deyrnas Unedig yn hwyrach yn ystod y mis, a bydd y mater yn cael ei godi,” meddai.
“Fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adran gyfiawnder ar Fedi 1, 2021.
“Cymerodd dros chwe mis i ni gael ateb i’r llythyr, ac nid gan yr Adran Gyfiawnder yn y diwedd; daeth gan y gweinidogion oedd yn gyfrifol, yn ôl y llythyr, am fusnesau bychain, cwsmeriaid, y farchnad lafur ac fel Gweinidog dros Lundain.
“Dw i’n meddwl bod hyn yn dweud pa fath o flaenoriaethau oedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater, pan nad oedd llythyr gan Weinidog o Gymru yn gofyn cwestiynau perthnasol iawn, sydd wedi dod i’r wyneb wedyn, yn cael ei ateb am fisoedd ac yna gan rywun y mae hi’n anodd gweld sut oedden nhw’n berthnasol i’r cwestiynau gafodd eu codi yn y lle cyntaf.”
❝ Colofn Huw Prys: Celwyddgwn, twyllwyr a lladron pen-ffordd
Cyflwyno deddf i ddileu euogfarnau is-bostfeistri Swyddfa’r Post