Mae rhywbeth yn hynod wrthnysig yn y ffordd mae newyddiadurwyr ac eraill wedi bod yn cyfeirio at gamweddau anfaddeuol Swyddfa’r Post fel ‘sgandal’. Mae’r gair yn bychanu’r anghyfiawnder dybryd mae cymaint o is-bostfeistri wedi’i ddioddef dros y blynyddoedd ac yn gwyngalchu’r celwydd, y twyll – a’r lladrata noeth – mae Swyddfa’r Post wedi ei gyflawni.
Nid diffygion meddalwedd Fujitsu chwaith ydi’r camwedd mwyaf o bell ffordd yn yr holl helynt. Nid y nhw ydi’r busnes cyntaf na’r olaf i wneud ffortiwn trwy werthu nwyddau a gwasanaethau israddol i’r sector cyhoeddus.
Yr hyn sy’n gwbl anfaddeuol ydi nad oes neb o’r is-bostfeistri wedi cael treial teg, eu bod wedi cael eu twyllo i bleidio’n euog i droseddau na wnaethon nhw eu cyflawni, ac wedi dioddef ymladd rhagdybiaeth o euogrwydd o’r dechrau un.
Mewn geiriau eraill, maen nhw wedi cael eu hamddifadu o rai o’r hawliau sylfaenol sydd wedi bod yn sail i gyfraith droseddol dros y canrifoedd – sef bod rhywun yn ddieuog onis profir yn wahanol.
Yn achos y rhan fwyaf o’r is-bostfeistri hyn, doedd dim hyd yn oed dystiolaeth, heb sôn am unrhyw fath o brawf, eu bod wedi dwyn. Hyd ymhlith y rheini na chafodd eu heuogfarnu, mae llawer wedi cael eu hamddifadu o filoedd o bunnau, sy’n golygu eu bod yn ddioddefwyr lladrad ar raddfa fawr.
Methiant y system neu dwyll unigolion?
Mae cymaint o bobol i deimlo’n ddig tuag atyn nhw yn yr holl helynt, fel ei bod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Fydd neb yn teimlo dim cydymdeimlad fod hyn yn debygol o brofi’n ergyd angheuol i enw da Swyddfa’r Post.
Y methiannau ar bob llaw sy’n dod i’r amlwg yn gyntaf. Mae’n anhygoel nad oedd neb yn Swyddfa’r Post wedi sylwi ar y cynnydd anferthol mewn achosion honedig o ddwyn ac o ffugio cyfrifon ers i system gyfrifiadurol Horizon gael ei gosod. Fyddai ddim wedi bod yn gredadwy i neb gonest a chall fod cymaint o bobol oedd wedi rhoi oes o wasanaeth i’r Post wedi troi’n droseddwyr i gyd yr un pryd efo’i gilydd.
Mi ddylai fod yn un o ddyletswyddau sylfaenol cyntaf unrhyw archwilwyr mewnol i ddarganfod unrhyw dueddiadau fyddai’n peri pryder yn y cyfrifon.
Mae sawl esboniad posibl, neu gyfuniad o esboniadau, yn dod i’r meddwl. Y mwyaf caredig fyddai fod holl strwythur Swyddfa’r Post yn rhy fawr a chymhleth a thrwsgl i hyd yn oed y bobol fwyaf galluog ei reoli’n iawn. Lawn mor debygol, fel sy’n digwydd mor aml mewn cymaint o sefydliadau, ydi pobol sy’n fyr o’r gallu a’r doniau angenrheidiol yn cyrraedd y swyddi uchaf.
Mae’n sicr hefyd fod byddin o swyddogion oedd â theyrngarwch gwbl ddall i’r sefydliad, â’u bryd ar gynnal ei enw uwchlaw pob ystyriaeth arall, yn ffactor allweddol. Gwyddom yn dda fod, yn y rhan fwyaf o sefydliadau, ormod o lawer o bobol ufudd o’r fath sy’n derbyn geiriau uwch-reolwyr fel efengyl.
Er hyn i gyd, mae’n amhosibl hefyd ddiystyru amheuon fod grymoedd mwy sinistr wedi bod ar waith yn Swyddfa’r Post. Mae’n anodd iawn credu bod creu mwy o elw i’r llywodraeth, sef unig gyfranddalwr Swyddfa’r Post, yn ddigon o gymhelliad i gymaint o bobol weithredu mor filain.
All rhywun ond amau bod cymhellion personol a hunanol yn ogystal. Eisoes mae adroddiadau fod rhai o’r ymchwilwyr fu’n erlid yr is-bostfeistri diniwed ar ryw fath o system fonws am bawb roedden nhw’n llwyddo i’w herlyn. Am a wyddom ni, efallai fod llawer o’r rhain yn derbyn symiau sylweddol. Ac os felly, gallai diffygion system Horizon fod yn talu ar ei ganfed iddyn nhw. Gallai hynny fod yn esboniad pam eu bod yn ymateb mor fygythiol i unrhyw awgrym o ddiffygion yn y system, gan y byddai hynny wedi rhoi eu cawg o aur yn y fantol.
Yn yr un modd, ni allwn fod yn sicr chwaith nad oedd llygredd ar lefelau uchel iawn yn y Post, rhwng rheolwyr a datblygwyr y meddalwedd diffygiol.
Iawndal teilwng
Mae’r anghyfiawnder mae llawer o’r is-bostfeistri wedi’i ddioddef y tu hwnt i ddim byd y gall arian ei unioni. Ar yr un pryd, mae’n hollbwysig eu bod nhw’n cael symiau sylweddol iawn o arian, er mwyn eu digolledu a hefyd i gosbi Swyddfa’r Post am yr hyn sydd wedi digwydd.
Mae dadl gref y dylai cwmni Fujitsu gyfrannu’n helaeth am iawndaliadau o’r fath – ond mater rhwng y llywodraeth a’r cwmni ddylai hynny fod. Swyddfa’r Post oedd yn gyfrifol am erlid y postfeistri, ac fel yr unig gyfranddaliwr, cyfrifoldeb y llywodraeth ydi digolledi’r is-bostfeistri yn y lle cyntaf.
Un llinyn mesur posib y gellid ei ddefnyddio i weithio allan iawndal posibl fyddai bod pawb yn cael swm rhywbeth yn debyg i gyflog blwyddyn y prif weithredwr cyn iddi adael dan gwmwl. I’r rheini allai ddadlau bod hyn yn swm rhy uchel, mae’r ateb yn syml. Bai Swyddfa’r Post oedd rhoi cyflog mor uchel iddi hi a’i thebyg yn y lle cyntaf. Mater o gyfiawnder elfennol ydi y dylai fod rhywfaint o gymesuredd rhwng y symiau roddwyd i’r rheolwyr di-glem (neu waeth) a’r hyn sydd bellach yn ddyledus i’r rheini y cipiwyd eu bywoliaeth a’u henw da.
Effaith wleidyddol
Mae’r dylanwad mae’r ddrama deledu Mr Bates v The Post Office wedi’i gael ar ein gwleidyddion wedi bod yn bur syfrdanol. Er nad oedd yn datgelu fawr ddim newydd i ni sydd wedi dilyn rhannau o’r stori dros y blynyddoedd yn y wasg Gymraeg, mae’n dangos yn glir sut y gall cyfres fel hyn ddod â’r stori’n fyw i’r miliynau.
Mae hefyd wedi atgoffa’r llywodraeth a’n haelodau seneddol nad oes ganddyn nhw gymaint o reolaeth ag maen nhw’n ei feddwl ar agenda’r newyddion. Am unwaith mae asgell dde’r Torïaid wedi gorfod derbyn nad oes gan neb ddiddordeb yn eu barn ar Rwanda ar hyn o bryd.
Mae’r helynt wedi golygu her sylweddol i Rishi Sunak a’i lywodraeth – er y gall hyn olygu cyfleoedd hefyd.
Maen nhw eisoes wedi gorfod ymrwymo i gyflwyno deddf fydd yn dileu euogfarnau’r holl bostfeistri hyn, a gallwn ddisgwyl y bydd llawer ohonyn nhw yn derbyn addewidion credadwy am iawndaliadau sylweddol cyn yr etholiad cyffredinol.
Does gan y llywodraeth ddim dewis arall. Mae’n werth cofio gymaint mae’r blaid Geidwadol wedi dibynnu ar gefnogaeth busnesau bach fel yr is-bostfeistri hyn ar hyd y degawdau.
Mae’n wir fod un o’r dioddefwyr a’r ymgyrchwyr amlycaf a mwyaf arwrol yng Nghymru, Noel Thomas, wedi bod yn un o hoelion wyth Plaid Cymru yn Môn ar hyd y blynyddoedd. Er hynny, gallwn fod yn sicr y byddai llawer o’r is-bostfeistri sydd mewn sefyllfa debyg iddo yn Lloegr wedi bod yn rhan o asgwrn cefn cefnogaeth y Torïaid ar hyd y blynyddoedd. Dyma’r union ddosbarth cymdeithasol o weithwyr caled ac annibynnol oedd yn cael ei ddelfrydu’n gyson gan Thatcher a’i holynwyr. Yn bwysicach na hynny, mi fyddai gan lawer iawn o’r is-bostfeistri hyn gylch cydnabod helaeth iawn mewn etholaethau ymylol allweddol ar hyd a lled Prydain. Gyda’r Torïaid eisoes yn wynebu colli’r etholiad, byddai iddyn nhw gael eu gweld yn sathru ymhellach ar y bobol hyn yn sicrhau chwalfa lwyr.
Mae peryglon i bleidiau eraill hefyd, wrth gwrs. Rhaid cofio mai’r Blaid Lafur oedd mewn grym dros ran helaeth o’r cyfnod pan oedd hyn yn digwydd. Mae Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd mewn dyfroedd dyfnion, fel y gweinidog oedd yn gyfrifol am Swyddfa’r Post wrthododd weld yr is-bostfeistr Alan Bates ar y cychwyn. Hyd yn oed os nad oedd cymaint â hynny o fai uniongyrchol arno fo, mae’n anodd gweld sut y gall barhau’n arweinydd ei blaid ar ôl gwneud y fath gamgymeriad.
Mae’r cyfan yn golygu bod Rishi Sunak yn cael cyfle i gael ei weld yn cyflawni ambell i weithred dda wrth i’r etholiad ddynesu. Mae’n weddol sicr na fydd yn ddigon i wrthdroi’r llanw o blaid y Torïaid. Ond gall fod yn ddigon i ddal rhywfaint o’r llanw’n ôl rhag eu traflyncu’n llwyr.
Un peth y gallwn fod yn sicr ohono ydi y bydd unrhyw gyhoeddiadau o newyddion da i’r is-bostfeistri’n cael eu hamseru’n ofalus iawn dros y misoedd nesaf.