Wrth i Gymru ddisgwyl eira a thywydd oer dros yr wythnosau nesaf, mae Age Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobol oedrannus ynghylch sut i gadw’n ddiogel, yn gynnes ac yn iach yn yr oerfel.

Yn sgil yr argyfwng costau byw, gallai fod yn demtasiwn i rai pobol ddiffodd neu ostwng eu gwres.

Ond mae’r elusen yn dweud bod cadw’n gynnes yn rhoi llai o straen ar y galon a’r ysgyfaint, yn gwella symptomau cyflyrau iechyd, ac yn helpu i reoli poen.

Gall cadw’n gynnes wella iechyd corfforol a meddyliol yn gyffredinol, gan helpu pobol i fod yn fwy gwydn yn wyneb heriau’r gaeaf.

Yn ôl Age Cymru, gall pobol oedrannus gadw eu hunain a’u cartrefi’n gynnes drwy wresogi ystafelloedd gwely hyd at 18 gradd selsiws, a lolfeydd hyd at 21 gradd selsiws.

‘Bwyta’n dda a hydradu’

“Dylai pobol gael maeth drwy fwyta’n dda a hydradu o hyd drwy yfed llawer o ddiodydd poeth yn ystod y dydd,” meddai Angharad Phillips, Swyddog Mentrau Iechyd Age Cymru.

“Rydyn ni hefyd yn argymell pentyrru eitemau bwyd sylfaenol megis llaeth, bara, a bwydydd mewn tuniau neu fwydydd sych rhag ofn na fyddwch chi’n gallu mynd allan am gyfnod.

“Mae hefyd yn syniad da i gadw rhestr o rifau ffôn mewn argyfwng, rhag ofn bod eu hangen nhw arnoch chi ac i gadw mewn cysylltiad gyda ffrind, perthynas neu elusen.

“Crynu yw ffordd ein cyrff o ddweud wrthym fod angen i ni symud mwy er mwyn cynhyrchu gwres, felly efallai y dylech chi roi cynnig ar rywfaint o ymarfer corff ysgafn neu wneud gwaith tŷ fel hwfro.

“Ac os ydych chi am fentro allan, gwisgwch snood neu sgarff i guddio’ch trwyn a’ch ceg, gan y bydd hyn yn cynhesu’r aer rydych chi’n ei anadlu ac yn helpu i atal yr oerfel rhag cyrraedd y frest.

“Rydyn ni’n gwybod fod llawer o bobol hŷn yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau bwyd a thanwydd, ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael, felly rydyn ni’n annog pawb i beidio â chyfaddawdu pan ddaw i’w hiechyd.”

Cymorth ariannol heb ei hawlio

Y llynedd, fe wnaeth Partneriaeth Age Cymru helpu pobol hŷn ledled y wlad i hawlio mwy na £7.5m.

Ond mae’r elusen yn awyddus i wneud llawer mwy, wrth i filiynau o bunnoedd o gefnogaeth – gan gynnwys £200m o Gredyd Pensiwn – fynd yn wastraff bob blwyddyn gan nad yw pobol yn ei hawlio.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi y bydd taliad ola’r Taliad Costau Byw (£299) yn cael ei dalu rhwng Chwefror 6-24.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y taliad, rhaid eich bod chi’n gymwys i dderbyn budd-daliadau megis Credyd Pensiwn rhwng Tachwedd 13 a Rhagfyr 12 y llynedd.

O ganlyniad i ôl-ddyddio rheolau Credyd Pensiwn, lle mae modd gofyn am gael ôl-ddyddio taliad am hyd at dri mis, mae’n bosib y gallech chi fod yn gymwys o hyd ar gyfer y Taliad Costau Byw olaf, hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn Credyd Pensiwn eto.

Mae gan Age Cymru ganllaw sy’n cynnig gwybodaeth ynghylch ystod o fudd-daliadau a sut i’w hawlio nhw.

Mae modd ffonio neu e-bostio Age Cymru i drafod eich sefyllfa.