Mae pennaeth ysgol uwchradd ym Mhowys yn optimistaidd y gall cynllun ariannol newydd i wyrdroi ei sefyllfa ariannol lwyddo.

Yng nghyfarfod Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio Cyngor Sir Powys ddydd Gwener (Ionawr 12), aeth pennaeth Ysgol Calon Cymru gerbron aelodau i ateb pryderon ynghylch sefyllfa ariannol yr ysgol uwchradd.

Mae’r ysgol, gafodd ei sefydlu yn dilyn cau ysgolion uwchradd Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt yn 2018, wedi cael ei rhedeg o “sefyllfa o ddiffyg” ers 2019.

Adeg ei hagor, cafodd gwerth £1.374m o ddyled yr ysgolion eu dileu.

Mae archwilwyr mewnol y Cyngor, SWAP, wedi cyflwyno barn “sicrwydd cyfyngedig” ynghylch yr ysgol, gyda’r pryderon yn canolbwyntio ar faterion ariannol yr ysgol.

Disgwyl i’r sefyllfa waethygu

Eglurodd Ian Halstead, Cyfarwyddwr Cynorthwyol SWAP, mai’r rhagfynegiad oedd y gallai diffyg yr ysgol waethygu.

Roedd yn disgwyl i’r diffyg godi, gyda rhagfynegiad o £1.579m ar ddiwedd 2023-24, £1.989m yn 2024-25, £2.335m yn 2025-26, a £2.405m yn 2026-27.

Ond mae arwyddion fod y diffygion blynyddol sy’n ychwanegu at y cyfanswm yn arafu.

Y diffyg sy’n cael ei ddarogan o fewn y flwyddyn yw £627,571 erbyn diwedd 2023-24, £409,902 yn 2024-25, £345,864 yn 2025-26, a £69,854 yn 2026-27.

“Mae’r prif bryderon yn ymwneud â chyllid a gallu’r ysgol i weithredu o fewn y gyllideb; mae’n broblem hirdymor,” meddai Ian Halstead.

“Ar y cyfan, mae’r ysgol yn perfformio’n dda.

“Mae cynllun adfer y gyllideb wedi cael ei gyflwyno, ond heb gael ei gymeradwyo eto.”

Mae Lynne Hamilton, cadeirydd y pwyllgor ac aelod lleyg, eisiau “deall persbectif yr ysgol” ar y mater.

Dywedodd y pennaeth Richard Jones, gafodd ei benodi’n barhaol ym mis Mawrth 2021, ei fod yn credu ei bod hi wedi cymryd pedair blynedd i’r broses “gymhleth” o uno’r ysgolion setlo a chyrraedd “y fan” lle roedd modd mynd i’r afael â’r problemau ariannol.

“Rydyn ni wedi symud ymlaen o adroddiad yr archwiliad yma, ac ar ddiwedd dydd Gwener (Ionawr 12), byddwn ni’n gallu cyflwyno cynllun adfer y gyllideb cadarn iawn sy’n dod â ni i sefyllfa o warged yn y blynyddoedd i ddod.

“Yr allwedd yw fod rhaid i fi gydbwyso gwelliant ein hysgol a lles ein disgyblion â rheoli’r gyllideb.

“Rydyn ni wedi cyrraedd y fan nawr lle gallwn ni fod yn sefydliad teneuach a mwy effeithlon, ond mae hi wedi cymryd amser i ni gyrraedd y fan yma.

“Rydyn ni’n ysgol lawer symlach nawr, a dw i’n teimlo’n optimistaidd ynghylch ein rhagfynegiadau ariannol yn y dyfodol.”

Diffinio gwelliant

Fe wnaeth y Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, holi Dr Richard Jones ynghylch y rhagfynegiadau ariannol, ac roedd e eisiau diffinio “gwelliant” yn nhermau’r rhagfynegiadau mwyaf diweddar sydd wedi’u hamlinellu yn adroddiad Ian Halstead.

“Hoffwn i ddeall ym mha flwyddyn gawn ni gydbwysedd o fewn y flwyddyn, oherwydd dyna gam cyntaf unrhyw adferiad,” meddai.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio ers mis Medi i wella ein cynllun adfer y gyllideb,” meddai Dr Richard Jones.

“Yr hyn rydyn ni’n cynnig ei gyflwyno yw cynllun sy’n dod â ni i’r sefyllfa ganlynol.”

Eglurodd fod diffyg o fewn y flwyddyn o £22,747 wedi’i ragfynegi ar gyfer 2024-25, fod gwarged o £74,084 wedi’i ragfynegi ar gyfer 2025-26, a gwarged o £229,331 ar gyfer 2026-27.

Pwysleisiodd y gallai’r ffigurau amrywio rywfaint gan fod y gwaith yn parhau a bod darlun ariannol y wlad gyfan yn “eithaf tymhestlog”.

“Mae’n gynllun tenau, a dyna pam ein bod ni wedi cyflwyno pwyntiau adolygu er mwyn sicrhau nad yw’n cael effaith ar les neu’r hyn sy’n cael ei gynnig o ran pynciau’r cwricwlwm yn yr ysgol,” meddai.

“Dydy hyn ddim yn dir hawdd, a bydd y pwyllgor eisiau gweld y cynllun unwaith y bydd e wedi’i dderbyn a’i archwilio’n fanwl,” meddai Lynne Hamilton.