Mae merch y cyn is-bostfeistr Noel Thomas, gafodd ei garcharu am ei ran honedig yn helynt Horizon a Swyddfa’r Post – ac un o gannoedd fydd yn cael eu rhyddhau o unrhyw fai – wedi cyhoeddi neges chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ei neges, mae hi’n beirniadu Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, ar ôl iddi fod yn trydar ei bod hi wedi codi mater yr is-bostfeistri yn San Steffan.

Yr wythnos hon yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Virginia Crosbie fod Noel Thomas yn un o’i hetholwyr “gafodd ei gyhuddo ar gam”.

“Cafodd ei euogfarn am gyfrifo ffug yn 2006 ei wyrdroi gan y Llys Apêl yn 2021,” meddai’r Aelod Seneddol wrth holi Kevin Hollinrake, Gweinidog y Post.

“Sut mae fy nghyfaill anrhydeddus yn sicrhau bod is-bostfeistri megis Noel Thomas, ledled y Deyrnas Unedig, yn cael eu clywed, eu cefnogi, eu had-dalu, eu cydnabod ac, yn bwysicaf oll, yn cael eu rhyddhau o fai?

“A fydd y Gweinidog yn cyfarfod â Noel Thomas, pe bai’n dymuno i hynny ddigwydd?”

‘Ypsetio’

Wrth droi at y cyfryngau cymdeithasol, mae Siân Vaughan Thomas yn gofyn cyfres o gwestiynau i Virginia Crosbie.

“Ga i ofyn pwy ydych chi?” gofynna.

“Wnes i erioed eich cyfarfod.

“Mae’n debyg fod Dad wedi eich cyfarfod unwaith ychydig flynyddoedd yn ôl, a wnaethoch chi fyth gydnabod y cyfarfod hwnnw.

“Wnewch chi roi’r gorau i roi pethau ar y cyfryngau cymdeithasol am Noel, fy nhad.

“Rydyn ni’n cael ein hypsetio.

“Diolch, y teulu Thomas.”