Gall unrhyw un chwarae rhan wrth gefnogi plant mewn gofal, yn ôl ymgyrch diweddaraf Cyngor Gwynedd.

Ar hyn o bryd, mae 7,000 o blant Cymru yn y system ofal, tra mai dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd ar gael.

Dywed y Cyngor fod dros 170 o blant mewn gofal yng Ngwynedd, gyda dim ond 71 o deuluoedd maeth ar gael ar hyn o bryd.

Byddai angen o leiaf ddeuddeg o ofalwyr maeth ychwanegol i ateb y galw.

Yr wythnos hon, cychwynnodd Maethu Cymru ar eu nod o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth ar draws 22 o awdurdodau lleol erbyn 2026, ac mae eu hymgyrch ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’ yn defnyddio gofalwyr maeth presennol i rannu profiadau realistig.

Wrth ddatblygu’r ymgyrch, siaradodd Maethu Cymru gyda thros 100 o bobol, gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

Wrth wneud hyn, cododd tri pheth allweddol sydd yn dal darpar ofalwyr yn ôl, sef diffyg hyder yn eu gallu i gefnogi plentyn mewn gofal, y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â’u ffordd o fyw, a’r camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Fodd bynnag, mae’r elusen yn awyddus iawn i brofi nad yw maethu trwy awdurdodau lleol mor gymhleth ag y mae’n ymddangos.

‘Mae angen gwreiddiau ar bob plentyn’

Mae Nici a Dan wedi bod yn ofalwyr maeth yng Ngwynedd ers dros 14 mlynedd.

Ar hyn o bryd, maen nhw’n maethu pedwar o blant yn llawn amser ac yn magu pedwar o blant eu hunain.

“I ni, nid yw’n ymwneud â nifer y plant rydyn ni wedi’u maethu. Mae’n ymwneud â’r gwahaniaeth rydyn ni wedi’i wneud i’r plant rydyn ni wedi’u maethu,” meddai Nici.

“Er i ni ddechrau maethu gyda’r bwriad o wneud rhywfaint o ofal maeth seibiant byr yn y lle cyntaf, fe arhosodd ein plentyn maeth cyntaf gyda ni am wyth mlynedd!

“Ers hynny, rydyn ni wedi dilyn ein calonnau ac wedi gwneud maethu hirdymor yn bennaf, sy’n wirioneddol gweithio i ni fel teulu.”

Ychwanega eu bod nhw’n teimlo, drwy faethu yn hirdymor, eu bod nhw’n cynnig sefydlogrwydd a phrofiad teuluol i’r plant.

“Mae’n golygu bod y plant yn dod yn rhan o’n teulu ni, a ninnau eu teulu nhw,” meddai.

“Mae angen gwreiddiau ar bob plentyn.

“Mae angen cariad arnyn nhw, ac mae angen iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn.”

‘Angen recriwtio mwy’

Dywed y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Plant a Phobol Ifanc ar Gyngor Gwynedd, fod gofalwyr maeth Gwynedd wedi bod yn “gwneud gwaith anhygoel” hyd yma.

Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol fod angen recriwtio mwy o ofalwyr maeth o bob math.

“Pan fyddwch chi’n maethu gyda thîm Maethu Cymru Gwynedd mi fydd y tîm yn sicrhau bod gennych chi fynediad at wybodaeth a chefnogaeth leol ymroddedig, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicach fyth, gallwch chi helpu plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt,” meddai.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i ddod â’u sgiliau a’u profiad i’r bwrdd a chysylltu â thîm Maethu Cymru Gwynedd.”