Mae Vaughan Gething yn dweud y byddai’n cyflymu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru pe bai’n dod yn Brif Weinidog.

Trwy wneud hyn, meddai, byddai’n mynd i’r afael â’r argyfwng tai ac yn hybu swyddi gwyrdd safonol ledled Cymru.

Yn ôl yr ymgeisydd, sydd hefyd yn Weinidog yr Economi, bydd prentisiaethau hefyd yn un o flaenoriaethau’r Llywodraeth Lafur nesaf er mwyn hybu fwy o bobol ifanc yn y maes swyddi gwyrdd.

Wrth adeiladu’r tai, meddai, byddai Llywodraeth Cymru’n helpu cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i gyfuno eu pŵer prynu i greu swyddi gweithgynhyrchu gwyrdd mewn cymunedau lleol yng Nghymru.

Yn ogystal ag adeiladu tai newydd, dywed y byddai’r Llywodraeth Lafur hefyd yn gwella’r cartrefi cymdeithasol sydd yn bodoli’n barod trwy ôl-osod.

Daw ei sylwadau yn dilyn pryderon am nifer y bobol sy’n byw mewn llety dros-dro o ganlyniad i ddiffyg argaeledd tai cymdeithasol.

Dywed Vaughan Gething y byddai’n cyflwyno mesurau newydd i gyflymu gwaith adeiladu lle bo angen, ac y byddai’r mesurau hynny’n helpu i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei droi’n dai cymdeithasol angenrheidiol cyn gynted â phosib.

Tai cynaliadwy

Yn ôl Vaughan Gething, byddai Llywodraeth Lafur Cymru hefyd yn defnyddio’r Grant Tai Cymdeithasol i gymell arloesiadau a dulliau modern o adeiladu, fel tai modiwlaidd a darparu cartrefi cynaliadwy, gyda chostau rhedeg is.

“Ar draws Cymru, rydyn ni’n gweld effaith 13 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd ar dai,” meddai.

“Mae llymder wedi taro cyllidebau cynllunio cynghorau lleol, ac mae anhrefn economaidd y Torïaid wedi cynyddu costau adeiladu i fusnesau hefyd.”

Ychwanega fod pawb yn haeddu cael lle i’w alw’n gartref.

“Gwn beth mae hyn yn ei olygu i bobol ar draws Cymru sydd angen cartref da,” meddai.

“Drwy gyflymu’r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol, gallwn helpu pobol ledled y wlad i adeiladu dyfodol sicrach i’w hunain a’u teuluoedd, a gosod y sylfaen ar gyfer Cymru decach.”

Wedi iddo gwrdd â staff Creating Enterprise Modular Solutions yn y Rhyl, ffatri sy’n fenter gymdeithasol ac yn is-gwmni i’r gymdeithas dai Cartrefi Conwy, nododd bwysigrwydd creu swydd lle mae cartrefi’n cael eu hadeiladu.

“Lle rydyn ni’n buddsoddi yn y cartrefi sydd eu hangen ar ein cymunedau, mae’n rhaid i ni weithredu’n feiddgar i wreiddio’r swyddi mae hyn yn eu creu yng nghymunedau Cymru,” meddai.