Mae cyn-ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer San Steffan yn galw am drosglwyddo grym tro Swyddfa’r Post i Gymru.

Daw’r alwad yn dilyn helynt Horizon a’r is-bostfeistri gafwyd yn euog ar gam o dwyll ariannol, pan mai system gyfrifiadurol oedd ar fai.

Yn ôl Dr Gwyn Williams, oedd wedi sefyll yn enw’r Blaid i gynrychioli Gorllewin Abertawe yn 2019, mae’r helynt yn tanlinellu methiant trychinebus Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i ddwyn Swyddfa’r Post i gyfrif.

Ddoe (dydd Iau, Ionawr 11), cyhoeddodd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ddeddf newydd er mwyn gwyrdroi euogfarnau dros 700 o is-bostfeistri, gan gynnwys rhai o Gymru.

Byddan nhw hefyd yn derbyn iawndal o hyd at £75,000.

Roedd pryderon gan rai na fydden nhw ond yn cael pardwn, gyda Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, yn un o’r rhai oedd yn dadlau bod pardwn yn awgrymu eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le yn y lle cyntaf.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth.

Ers darlledu’r ddrama Mr Bates vs The Post Office yn ddiweddar, fe fu Llywodraeth y Deyrnas Unedig dan bwysau i weithredu.

Arweiniodd yr helynt yr wythnos hon at Paula Vennells, y cyn-Brif Weithredwr, yn dychwelyd ei CBE yn dilyn ymgyrch.

‘Addewid’

“Mae Swyddfa’r Post 100% ym meddiant y llywodraeth,” meddai Dr Gwyn Williams.

“Ond er gwaethaf gwasanaeth ymroddedig gan ein postfeistri a’u staff, maen nhw wedi eu gadael i lawr gan wleidyddion Llundain.

“Nawr yw’r amser i bob plaid roi addewid i sicrhau trosglwyddo perchnogaeth o Swyddfa’r Post i Senedd Cymru.”