Bydd cynlluniau i alluogi newyddiadurwyr a blogwyr cyfreithiol i ddilyn achosion mewn llysoedd teulu yn cael eu hehangu ledled y Deyrnas Unedig, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yng Nghaerdydd.

Cafodd y cynllun ei lansio yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Caerdydd ac mewn llysoedd teulu yng Nghaerliwelydd a Leeds y llynedd.

Mae’r cynllun wedi cael ei ddisgrifio fel un “arloesol”, sy’n galluogi newyddiadurwyr i ddilyn achosion mewn llysoedd teulu yn yr un modd ag y maen nhw mewn llysoedd troseddol.

Bydd yn cael ei ehangu i gynnwys 16 o lysoedd teulu eraill yn y Deyrnas Unedig ar Ionawr 29, gan gynnwys Lerpwl a Manceinion.

Mae gohebu o achosion llysoedd teulu wedi bod o dan gyfyngiadau tynn cyn hyn, ac mae achosion sensitif o’r fath ar gau i’r cyhoedd.

Gall newyddiadurwyr neu ohebwyr ymweld ag unrhyw un o’r llysoedd sy’n rhan o’r cynllun, cyn belled â’u bod yn dilyn yr amodau pan ddaw i’r cyfyngiadau sydd yn eu lle er mwyn diogelu cyfrinachedd.

Ond mae’r cynllun newydd yn rhoi mwy o ryddid i ohebwyr, cyn belled â’u bod nhw’n cadw manylion personol y teuluoedd a rhai o’r arbenigwyr yn gyfrinachol.

‘Ehangu dealltwriaeth’

Dywed Syr Andrew McFarlane, Llywydd Adran Deulu’r Uchel Lys, ei fod yn gobeithio y bydd ehangu’r cynllun yn galluogi gwell dealltwriaeth o effaith gohebu o lysoedd teulu.

“Mae ehangu ar y cynllun peilot yn llysoedd teulu ledled y wlad yn gam enfawr yng ngwaith parhaus y farnwriaeth i gynyddu tryloywder a gwella hyder a dealltwriaeth y cyhoedd ynglŷn â’r system gyfiawnder teuluol,” meddai.

Bydd newyddiadurwyr hefyd yn cael mynediad at rai dogfennau sy’n berthnasol i’r achos, a gorchymyn tryloywder sy’n rhoi gwybodaeth o ran yr hyn sy’n dderbyniol neu’n annerbyniol i ohebu arno.

Yn ogystal â hynny, bydd caniatâd i deuluoedd siarad â newyddiadurwyr ynglŷn â’u hachosion heb wynebu cosb.