Mae’r elusen iechyd meddwl Mind Cymru wedi lansio cymorth iechyd meddwl er mwyn annog siaradwyr Cymraeg i ofyn am gymorth.

Yn ôl yr elusen, y llynedd cafodd tros 500,000 o bobol fynediad at adnoddau cymorth ar-lein Mind Cymru, tra bod tua un ym mhob deg o bobol yn chwilio am gyngor yn Gymraeg.

O edrych ar eu data, mae Mind wedi canfod mai chwilio am gyngor ar reoli iselder, gorbryder, straen a phyliau o banig yw’r prif resymau pam fod pobol Cymru yn ffonio’r Llinell Wybodaeth.

Felly, mae’r elusen wedi defnyddio’r data er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth hon ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Maen nhw hefyd wedi lansio amryw o adnoddau’n benodol ar gyfer pobol ifanc dan 25 oed yn y Gymraeg, sy’n ymdrin â phynciau fel gofalu am les, deall iechyd meddwl a chefnogi eraill.

Daw’r ymgyrch fel rhan o ymrwymiad yr elusen i’r Cynnig Cymraeg gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Cymryd y cam cyntaf

Yn ôl Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru, mae cymryd y cam cyntaf a gofyn am gymorth yn gallu bod yn anodd, ac felly mae’n hanfodol fod cymorth priodol ar gael i siaradwyr Cymraeg.

“Ni ddylai unrhyw un wynebu rhwystrau rhag cael gafael ar gymorth iechyd meddwl – na wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun,” meddai.

“Gall ein gwybodaeth Gymraeg eich helpu i ddeall beth rydych chi’n mynd drwyddo a sut i gael y cymorth cywir.”

Cafodd hyn ei adleisio gan Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg, sy’n annog pobol i ofyn am gymorth os ydyn nhw ei angen.

“Rhan o hyn yw sicrhau bod y gefnogaeth ar gael yn newis iaith yr unigolyn sy’n ei wneud yn gartrefol ac yn ei helpu i gyfleu ei brofiadau’n well,” meddai.

“Mae Mind Cymru wedi cael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg oherwydd ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn heriol i lawer, a byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â ni.”

‘Yr holl gefnogaeth yn Saesneg’

Mae Ffion Connick, sy’n 22 oed ac yn dod o Rydaman, yn un sydd wedi dioddef â’i hiechyd meddwl er pan oedd hi’n blentyn.

Dywed y byddai hi wedi gwerthfawrogi cymorth yn y Gymraeg pan oedd hi’n iau.

“Roedd yr holl gefnogaeth a gefais, o therapïau siarad i ymweliadau ysbyty, yn Saesneg,” meddai.

“Er i mi gael rhai profiadau da, roedd ceisio cyfleu rhywbeth mor ddwfn y tu mewn i mi – mewn iaith sydd yn ei hanfod yn iaith dramor – weithiau’n anodd.

“Mae adegau pan na allwch chi hyd yn oed nodi sut rydych chi’n teimlo o gwbl – heb sôn am geisio ei fynegi mewn iaith nad yw’n famiaith i chi, a gall hynny fod yn anodd.”

Mae hi’n nodi bod rhai pobol yn colli eu hunaniaeth wrth geisio mynegi eu hunain mewn iaith wahanol i’w mamiaith.

“Rydych chi’n teimlo’n rhyfedd yn barod, ac yna mae gennych chi’r haen ychwanegol o geisio esbonio hynny i rywun hefyd,” meddai.

“Rydw i’n frwd dros gynyddu mynediad at gymorth i gynifer o bobol â phosibl, yn eu dewis iaith, a gobeithio y gall yr ymgyrch hon helpu i sbarduno sgwrs â phobol pan fydd ei hangen fwyaf arnyn nhw.”