Mae Rishi Sunak dan y lach am gefnogi cyrchoedd awyr yn yr Yemen heb gydsyniad San Steffan.

Ond dywed Prif Weinidog y Deyrnas Unedig fod gweithredu’n “angenrheidiol a chymesur” er mwyn gwarchod cludo nwyddau yn y Môr Coch.

Fe fu’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan mewn cyrchoedd awyr dros nos, a’r rheiny wedi’u trefnu gan yr Unol Daleithiau.

Yn ôl Sunak, roedd gweithredu yn erbyn lluoedd Houthi, sy’n rheoli rhannau helaeth o’r Yemen ac yn cefnogi Hamas drwy dargedu llongau ar eu ffordd i Israel, yn weithred o “hunanamddiffyniad”, ond mae Houthi yn rhybuddio y bydd y ddwy wladwriaeth yn “talu’r pris”.

Cafodd dros 60 o dargedau mewn 16 o leoliadau Houthi eu bomio, yn ôl Llu Awyr yr Unol Daleithiau.

Dywed Rishi Sunak y “bydd y Deyrnas Unedig bob amser yn sefyll i fyny dros ryddid morwriaeth a llif masnach”.

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi datgan ei gefnogaeth i’r streiciau yn dilyn sesiwn briffio neithiwr (nos Iau, Ionawr 11).

Gweithredu “heb graffu seneddol”

Ond mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a’r SNP wedi beirniadu’r weithred.

Dywed Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ei bod hi wedi cael “sioc” yn sgil “cynnydd sylweddol mewn gweithredoedd milwrol, gyda’r Deyrnas Unedig yn cynnal cyrchoedd awyr ar y cyd â’r Unol Daleithiau yn yr Yemen”, a bod hynny wedi digwydd “heb graffu seneddol”.

“Dyma dystiolaeth o lywodraeth wan a di-drefn,” meddai.

Yn ôl Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, dydy gwersi’r gorffennol “ddim wedi cael eu dysgu”, gan nad oedd “y rhai oedd yn gyfrifol am ymosod ar Irac yn 2003 wedi’u dwyn i gyfrif”.