Mae Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, wedi addo “rhoi terfyn ar gylch o argyfyngau Torïaidd sydd wedi blino cynifer o bobol”.

Daw’r neges mewn fideo newydd, wrth iddo fe frwydro yn erbyn Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru.

Bydd canghennau lleol y Blaid Lafur yn dechrau cynnal cyfarfodydd enwebu y penwythnos hwn, ac mae neges Jeremy Miles yn diolch i aelodau am eu cefnogaeth – gan gynnwys mwyafrif clir o Aelodau’r Senedd, ac arweinwyr a dirprwy arweinwyr cynghorau.

Wrth lansio’i ymgyrch yr wythnos hon, fe ddatgelodd e chwe addewid ynghylch:

  • gwariant addysg
  • torri rhestrau aros
  • tai cydweithredol newydd
  • swyddi gwyrdd
  • costau bws tecach
  • ymrwymiad i ddatganoli rhagor o bwerau i gymunedau