Bydd diogelwch cleifion yn cael ei sicrhau yn ystod streic feddygol, yn ôl Eluned Morgan.

Dywed Gweinidog Iechyd Cymru fod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain a Llywodraeth Cymru’n cydweithio er mwyn lleddfu effeithiau’r streic gan feddygon iau yr wythnos nesaf.

Bydd meddygon iau yn streicio dros dâl am dridiau, gan ddechrau ddydd Llun (Ionawr 15), ac mae disgwyl i’r effaith ar wasanaethau fod yn sylweddol.

Fodd bynnag, mae’r Gweinidog Iechyd wedi rhoi sicrwydd i bobol y bydd gofal brys a gofal mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol yn parhau i gael eu darparu yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hefyd yn annog pawb i helpu i leihau’r baich ar y Gwasanaeth Iechyd drwy ystyried gwasanaethau iechyd eraill yn lle mynd i’r ysbyty, oni bai bod angen gofal brys arnyn nhw.

‘Siomedig’

“Rydym yn siomedig bod meddygon iau wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol, ond rydym yn deall cryfder teimladau ymhlith aelodau’r BMA,” meddai Eluned Morgan.

“Rydyn ni’n dymuno mynd i’r afael â’u huchelgais i adfer cyflogau, ond mae ein cynnig ar lefel uchaf y cyllid sydd ar gael inni ac yn adlewyrchu’r penderfyniad y daethon ni iddo gyda’r undebau iechyd eraill.

“Byddwn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu, dros y 13 mlynedd diwethaf, i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn.

“Byddai cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-25 £3bn yn uwch pe bai wedi tyfu yn unol â’r economi ers 2010.

“Oherwydd y sioc chwyddiant diweddar, mae ein setliad y flwyddyn nesaf werth hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real na’r disgwyl pan gafodd ei osod gyntaf yn 2021.

“Rydyn ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Chymdeithas Feddygol Prydain a Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd, ac rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am gydweithio i sicrhau diogelwch cleifion yn ystod y streic.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl i weithgareddau nad ydyn nhw’n rhai brys a gweithgareddau dewisol gael eu cynnal yn ystod y cyfnod yma.

“Y disgwyl yw y bydd gwasanaethau yn debyg i’r rhai sy’n cael eu darparu’n gyffredinol ar Ŵyl Banc.

“Fodd bynnag, os oes gennych angen clinigol i fynd i adran achosion brys, dylech barhau i wneud hynny.

“Rydyn ni’n annog pawb i ystyried yr opsiwn gorau iddyn nhw, gan gynnwys y gwasanaeth 111 ar-lein neu dros y ffôn, neu eu fferyllfa leol.”

‘Rhwystredigaeth’

Mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi mynegi rhwystredigaeth y blaid.

“Bydd pobol Cymru’n rhannu fy rhwystredigaeth ynghylch y tarfu difrifol sydd wedi’i achosi gan y streic yng Nghymru dan reolaeth Llafur pan fo gennym ni eisoes y rhestrau aros hiraf am driniaeth yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Yn Lloegr dan reolaeth y Ceidwadwyr, mae meddygon iau wedi cael cynnig codiad cyflog uwch na dwywaith yr hyn sydd wedi’i gynnig yng Nghymru dan reolaeth Llafur.

“Mae Llafur yn gyson wedi rhoi’r cynnig gwaethaf yn y Deyrnas Unedig ar y bwrdd.”