Mae angen parchu rhieni sy’n dewis addysgu eu plant yn y cartref, yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw sylwadau Laura Anne Jones wrth iddi ymateb i ddata sy’n dangos bod 5,330 o blant wedi’u cofrestru fel rhai oedd yn cael eu haddysgu gartref yng Nghymru rhwng Medi 2022 ac Awst 2023.
Mae’r ffigwr yn sylweddol uwch na’r 2,626 bum mlynedd yn ôl, a llai na 900 o blant ddegawd yn ôl.
Yn ôl y data, sydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru, gwelodd 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gynnydd yn nifer y rhai sy’n cael eu haddysgu yn y cartref.
Sir Gaerfyrddin oedd â’r cynnydd uchaf – o 457 i 739 dros gyfnod o ddwy flynedd, ond roedd cynnydd sylweddol hefyd yn Sir y Fflint a Rhondda Cynon Taf.
Er bod Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n cydnabod hawl rhieni i addysgu eu plant yn y cartref, maen nhw’n dadlau mai mynd i’r ysgol yw’r dewis gorau yn y rhan fwyaf o achosion.
Fodd bynnag, mae rhai rhieni’n dadlau bod derbyn addysg yn y cartref yn fanteisiol ar gyfer plant sy’n dioddef o anhwylderau iechyd meddwl megis gorbryder.
Parchu dewis rhieni
Fodd bynnag, mae Laura Anne Jones yn credu mai rhieni sy’n gwybod beth sydd orau i’w plant.
“Dylid parchu dewis rhieni,” meddai.
“Er bod rhywfaint o ganllawiau a diogelu ar gyfer addysg yn y cartref yn angenrheidiol i sicrhau nad yw plant ar ei hôl hi yn eu hastudiaethau, mae rhieni a gwarcheidwaid ledled Cymru yn aml yn gweld manteision yr arfer [o addysgu o adref.]
“Ddylen nhw ddim cael eu rhwystro rhag gwneud y penderfyniad cadarnhaol i addysgu yn y cartref.”
Yn ogystal, mae hi’n cyhuddo Lywodraeth Cymru o anwybyddu disgyblion a’u rhieni.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywed Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw lawlyfr addysgwyr cartref er mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gyfer yr 1% o blant Cymru sy’n cael eu haddysgu yn y cartref, neu sy’n ystyried addysg yn y cartref.
“Rydym hefyd wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol i wneud yn siŵr bod modd nodi’r ddarpariaeth fwyaf priodol a’i rhoi ar waith ar gyfer pob plentyn,” meddai llefarydd.