Bydd Plaid Cymru yn dechrau dathlu eu canmlwyddiant heno (nos Wener, Ionawr 12) gyda dathliad o ddigwyddiad allweddol ym Mhenarth gan mlynedd yn ôl.
Fis Ionawr 1924, daeth pedwar o bobol genedlaetholgar Gymreig ynghyd yn 9 Bedwas Place ym Mhenarth, gan gofnodi eu penderfyniad i greu ‘Plaid Genedlaethol Cymru’.
Y rhai oedd yn bresennol oedd Ambrose Bebb, Griffith John Williams, Elizabeth Williams, a’r bardd a dramodydd Saunders Lewis, oedd yn ddarpar arweinydd y blaid newydd.
Arweiniodd y cyfarfod hwn at lansiad cyhoeddus i’r blaid newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn 1925.
Heno, bydd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru rhwng 2012 a 2018, a Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn cynnal trafodaeth o’r ganrif ddiwethaf, gyda chyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Bydd y dathliad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Belle Vue ym Mhenarth am 7 o’r gloch.
Beth sy’n sefyll allan?
Ymysg uchafbwyntiau Leanne Wood o gan mlynedd gynta’r Blaid mae refferendwm 1997, pan bleidleisiodd 50.3% o blaid datganoli i Gymru.
“Wrth edrych yn ôl ar y 100 mlynedd, mae lot wedi’i gyflawni dros y cyfnod hwnnw,” meddai wrth golwg360.
“O bersbectif amcanion craidd Plaid Cymru – sefydlu’r Senedd, genedigaeth datganoli, canlyniad y refferendwm yn 1997 – mae’r rhain yn sefyll allan o’r 100 mlynedd diwethaf.
“Ond mae nifer fawr o gyflawniadau eraill hefyd, fel y ffaith fod gennym ni iaith Gymraeg lewyrchus o hyd. Mae beth sydd wedi’i gyflawni gyda’r iaith Gymraeg a’i oroesiad yn nodedig.”
Dywed y bu’n fraint cael chwarae rhan yn y ganrif.
“Dw i’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael bod mewn safle i arwain y Blaid a gweld newidiadau o fewn y Blaid, ond hefyd i arsylwi llawer o barhad gyda’r gorffennol.
“Rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri – rhaid diolch a dangos diolchgarwch i’r holl bobol sydd wedi dod o’n blaenau ni am bopeth sydd yn cael ei wneud heddiw.
“Dw i’n un o ddegau o filoedd o bobol sydd wedi bod, ac yn parhau i fod yn rhan o’r blaid.”
Y ganrif nesaf
Dros y 100 mlynedd nesaf, mae Leanne Wood yn gobeithio y bydd y grym yn nwylo Plaid Cymru yn y Senedd ar ryw adeg, er mwyn arwain Cymru tuag at fod yn “genedl lewyrchus”.
“Dw i’n obeithiol iawn y bydd Plaid Cymru yn gallu parhau i gyfrannu at fywyd gwleidyddol Cymru, ac y byddwn ni ar ryw adeg yn dal grym yn ein Senedd ac mewn safle arweinyddiaeth i allu cryfhau’r Senedd a thyfu ein pwerau i’r pwynt lle rydy ni’n gallu gwneud penderfyniadau droson ni ein hunain a sefyll ar ein traed ein hunain yn gyfangwbl, a dod yn genedl lewyrchus.
“Dw i’n meddwl hefyd y byddwn ni’n gweithio tuag at y dyfodol ar gyfer dinasyddion ein cenedl lle gall pobol gyrraedd eu potensial llawn, a lle gall yr holl rwystrau hynny sy’n sefyll yn ffordd pobol rhag ffynnu cymaint ag sy’n bosib, gael eu dileu.”
Leanne Wood oedd arweinydd benywaidd cyntaf Plaid Cymru, ac mae hi’n obeithiol y gwelwn ni fwy o amrywiaeth ymysg y Blaid a’i harweinwyr yn y dyfodol.
“Dw i bob tro’n obeithiol y bydd mwy o ferched yn arwain y Blaid yn y dyfodol, a dw i wedi bod erioed.
“Dw i wastad eisiau gweld mwy o ferched mewn gwleidyddiaeth, a mwy o gydbwysedd yn gyffredinol.
“Dw i’n ddemocrat, a dw i’n credu y dylai gwleidyddiaeth adlewyrchu’r gymdeithas mae’n ei llywodraethu.
“Mae angen merched, pobol o liw, pobol hoyw, pobol draws, pobol hŷn, pobol anabl, pobol iau – rydyn ni angen i bawb gael eu cynrychioli o fewn ein system wleidyddol, neu fel arall dydy hi ddim yn ddemocratiaeth go iawn sy’n adlewyrchu’r gymdeithas mae’n ei gwasanaethu.
“Felly, ie, mwy o ferched, ond ie i fwy o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli hefyd.”