Mae cynllun Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn perygl o ddiystyru datganoli a chreu tensiwn rhwng cynghorau lleol, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Daw’r sylwadau gan Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, wedi iddi feirniadu cynllun Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wrth siarad yn y Senedd.

Mae hi wedi beirniadu’r model Ffyniant Bro, gan honni ei fod yn annog cynghorau i gystadlu yn erbyn ei gilydd.

“Ni ddylai fod yn rhaid i gynghorau gystadlu am gyllid cyfyngedig, yn enwedig pan fyddwn yn wynebu system anghytbwys lle mae cynghorau a mwy o adnoddau yn gallu gosod cynigion gwell na’u cymheiriaid llai cefnog,” meddai.

“Rhaid penderfynu ar yr arian sydd ei angen yng Nghymru yma yn y Senedd, nid filoedd o filltiroedd i ffwrdd lle mae anghenion a buddiannau ein cenedl yn cael eu hanwybyddu gan lywodraeth Dorïaidd ddifater y Deyrnas Unedig.”

Ychwanega fod perygl fod y cynllun yn osgoi’r sefydliadau datganoledig.

“Mae arnom angen model ariannu cynaliadwy a theg ar gyfer Awdurdodau Lleol, yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Nid cystadleuaeth yw cyllid y Cyngor, mae’n hen bryd i’r Torïaid ddod â’u gweithredoedd at ei gilydd a gwireddu hyn.”

‘Llai o lais a llai o arian’

Cafodd ei sylwadau eu hadleisio gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

“Mae’n realiti trist bod cynlluniau Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud cam â’n pobol, ein busnesau a’n cymunedau,” meddai.

Ychwanega ei fod yn “frad syfrdanol” fod Cymru ar ei cholled o bron i £1.3bn mewn termau real.

“Mae gan holl gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, boed yn gronfa Codi’r Gwastad, y Gronfa Ffyniant a Rennir, y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, neu’r cynllun trefi, yr un pethau’n gyffredin: maen nhw’n llanast heb eu cydlynu, gydag ychydig iawn o gynllunio, ymgynghori na rhesymeg economaidd,” meddai.

Ychwanega fod y cronfeydd yn rhoi pwysau ar lywodraeth leol i wario arian yn gyflym ar brosiectau bach sy’n cael llai o effaith economaidd na buddsoddiadau strategol mwy.

“Maen nhw’n cymryd arian a phwerau oddi ar Gymru, gan eu rhoi yn nwylo gweinidogion Torïaidd yn Whitehall,” meddai.

“Mae gan Gymru lai o lais dros lai o arian.

“Mae hwnnw’n ddewis bwriadol gan y Torïaid— canoli cronfeydd a chyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli’n glir.”

‘Neb yn ei gymryd o ddifrif’

Dywed Alun Davies, Aelod Etholaethol o’r Senedd dros Flaenau Gwent, ei fod yn credu bod y cynllun Ffyniant Bro “wedi marw.”

“Dim ond ymarfer cysylltiadau cyhoeddus ydoedd erioed. Nid oedd erioed yn bolisi economaidd difrifol,” meddai.

“Ond yr hyn laddodd Codi’r Gwastad ac a laddodd unrhyw ymdeimlad fod Ffyniant Bro yn bolisi difrifol gan y Llywodraeth oedd y cyhoeddiad ar HS2.

“Mae’r ffaith na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach yn gwario arian ar gysylltu dinasoedd Lloegr yn golygu bod unrhyw esgus am fwriad polisi difrifol wedi dod i ben.

“Mae HS2 bellach yn rheilffordd gyflym sy’n cysylltu Birmingham a Llundain, sydd, yn ôl y sôn, mor ganlyniadol i Gymru y byddwn yn cael ein hamddifadu o gyllid oherwydd y budd economaidd y byddwn yn ei weld.”