Fe fydd oedi cyn gwneud penderfyniad mewn achos yn ymwneud ag arwyddion dwyieithog mewn canolfan hamdden yn Belfast, yn dilyn penderfyniad i beidio â datgelu dogfennau perthnasol i’r achos.
Mae’r achos yn ymwneud â chanolfan hamdden yn ne Belfast, wrth i ymgyrchwyr apelio yn erbyn y penderfyniad gan Gyngor y Ddinas i atal mynediad i ddogfennau allweddol.
Yn ôl y mudiad Conradh na Gaeilge, dyma’r achos cyntaf ers canrifoedd lle mae tystion wedi bod yn siarad Gwyddeleg yn y llys.
Cefndir
Roedd disgwyl i arwyddion dwyieithog gael eu codi yng nghanolfan hamdden Olympia, ond roedd oedi yn 2022 yn dilyn cais llwyddiannus gan y DUP i alw’r penderfyniad i mewn.
Cafodd pryderon eu codi ar y pryd y gallai’r gymuned leol ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad, ac mae’r cynigion ar gyfer arwyddion dwyieithog wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ers hynny.
Mae her yn erbyn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am gefnogi penderfyniad y Cyngor i beidio â chyhoeddi’r dystiolaeth sy’n dangos bod y meini prawf ar gyfer galw’r penderfyniad i mewn wedi cael eu bodloni.
Yn ôl Swyddfa’r Comisiynydd, roedd hi’n bwysicach gwarchod y wybodaeth am resymau proffesiynol na’i datgelu er budd y cyhoedd.
Ond mae Conradh na Gaeilge yn galw am dryloywder llawn, ac fe wnaethon nhw apelio i dribiwnlys yn Llysoedd Cyfiawnder Belfast, lle bu cyfreithwyr yn dadlau nad oes modd i’r Cyngor ddefnyddio braint gyfreithiol i atal craffu cyhoeddus.
Cyflwynodd pedwar o dystion eu hunain drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg – y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers cyflwyno deddfwriaeth yn 1737 sy’n mynnu mai Saesneg yw unig iaith y llysoedd ac sydd heb gael ei diddymu hyd yma, er gwaetha’r ymdrechion drwy Ddeddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022.
Mae disgwyl dyfarniad yn yr achos fis nesaf.