Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi pum addewid wrth iddo fe geisio dod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru a Phrif Weinidog nesa’r wlad.

Daw hyn wrth i Weinidog yr Economi herio Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, yn y ras i olynu Mark Drakeford.

Fe wnaeth e lansio’i ymgyrch yn swyddogol yn gynharach yr wythnos hon, gan addo swyddi gwyrdd.

Y pum addewid yw:

  • cenedl iach: Gwasanaeth Iechyd Cymru sy’n ddiogel mewn dwylo cyhoeddus ac sydd bob amser yn cael blaenoriaeth yn y gyllideb, a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar wella iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â gofal cymdeithasol sy’n addas ar gyfer ein dyfodol.
  • ffyniant gwyrdd: Creu swyddi gwyrdd wrth galon amddiffyn dyfodol Cymru, a phontio teg sy’n mynd i’r afael â thlodi tra’n amddiffyn ein planed, gyda swyddi da a chyfoeth cymunedol.
  • lle i’w alw’n gartref: Cyflymu adeiladu tai cymdeithasol, trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy, a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gyda phwerau a chyllid wedi’u datganoli i lywodraeth leol.
  • dyfodol uchelgeisiol: Cyfleoedd addysgol i bobol o bob oed a chyfnod mewn bywyd, a defnyddio dylanwad swyddfa’r Prif Weinidog i sicrhau rhagoriaeth yn ein hysgolion a’n colegau, gan weithio gyda athrawon a staff cymorth ysgolion.
  • Cymru gryfach: Mwy o bwerau i Gymru a ledled Cymru, gyda chenedl uchelgeisiol a blaengar yn cymryd ei lle ar lwyfan y byd gyda dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg.

Mae’r pum addewid hyn yn greiddiol i gynllun Vaughan Gething ar gyfer dyfodol Cymru, ac maen nhw’n dod ar ôl iddo fe sicrhau cefnogaeth undebau’r GMB, Usdaw a Community, yn ogystal â chefnogaeth llu o wleidyddion yn y Senedd a San Steffan a chynghorwyr blaenllaw.

‘Adeiladu gyda’n gilydd’

“Mae hi wedi bod yn bleser gwrando a siarad â chymaint o aelodau Llafur Cymru yn ystod wythnosau cyntaf yr ymgyrch hon, ac rwy’n obeithiol ar gyfer y dyfodol y gallwn adeiladu gyda’n gilydd,” meddai Vaughan Gething.

“Byddai Llywodraeth Lafur Cymru gyda fy arweinyddiaeth yn blaenoriaethu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wastad mewn dwylo cyhoeddus, wastad yn flaenoriaeth yn y gyllideb; swyddi glân, gwyrdd sy’n hybu ein ffyniant tra’n lleihau ein hallyriadau carbon; cyflymu adeiladu cartrefi da, a threnau a bysiau dibynadwy; rhoi cyfleoedd i blant ac oedolion sy’n dysgu i gyflawni eu potensial; a sicrhau mwy o bwerau i’r Senedd, i’n rhanbarthau, ac i’n cynghorau.

“Rwy’n falch o gyhoeddi’r addewidion hyn i bobol Cymru ac i’n plaid, gan amlinellu’r blaenoriaethau a fyddai’n allweddol i fy arweinyddiaeth pe bawn i’n ddigon breintiedig i ennill.”

Profi’i hun yn ystod y pandemig

Wrth lansio’i ymgyrch ddechrau’r wythnos, tynnodd Vaughan Gething sylw at ei waith yn ystod y pandemig Covid-19, ac yntau’n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd.

Nododd ei weledigaeth ar gyfer llywodraethu fel Prif Weinidog, a’i awydd i gael gwared ar y Ceidwadwyr yn San Steffan yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig eleni, gan baratoi’r ffordd ar gyfer partneriaeth gyntaf Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ers 2010.

Vaughan Gething yn lansio’i ymgyrch arweinyddol drwy addo swyddi gwyrdd

Creu “dyfodol tecach i Gymru” yw ei nod, meddai