Mae’r ddau ymgeisydd sy’n brwydro i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru ac yn arweinydd nesaf Llafur Cymru yn wynebu galwadau i roi cadoediad yn Gaza ar frig eu hagenda ryngwladol yn ystod eu 100 diwrnod cyntaf mewn grym.

Mae pedwar mudiad wedi dod ynghyd i anfon dogfen naw pwynt at yr ymgeiswyr, Jeremy Miles a Vaughan Gething, cyn i broses bleidleisio fewnol Llafur Cymru ddechrau.

Mae Cardiff Stop the War, gyda chefnogaeth PSC Caerdydd, Stand Up 4 Palestine a BLM Caerdydd, yn annog yr ymgeiswyr i weithredu ar unwaith ar y terfysg cynyddol sy’n datblygu ym Mhalestina.

Y naw pwynt

Yn y ddogfen naw pwynt, mae’r mudiadau yn galw am:

  • i’r Prif Weinidog ac Aelodau Cabinet newydd alw am gadoediad
  • rhoi’r gorau i werthu arfau i Israel
  • torri cysylltiadau diplomyddol gydag Israel
  • trafod gefeillio Cymru gyda Phalesteina ymysg y cabinet newydd
  • sefydlu apêl cymorth dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar gyfer Palestina o fewn 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog newydd
  • gwneud Cymru’n barth rhydd o apartheid
  • gweithredu gwaharddiad arfau ar Israel a chefnogi sancsiynau economaidd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ynysu Israel
  • sicrhau nad yw dinasyddion y Deyrnas Unedig yn ymladd ym myddin Israel
  • brwydro yn erbyn Islamoffobia yn ogystal â gwrth-Semitiaeth yng Nghymru.

Angen Prif Weinidog ‘sy’n angerddol dros heddwch a chyfiawnder i bawb’

Yn ôl Qasim Falasteen o Stand up 4 Palestine, mae angen i’r Senedd wneud mwy i weithredu yn erbyn yr hil-laddiad yn Gaza.

“Mae gan y cyhoedd ehangach obaith y bydd Prif Weinidog Cymru’r dyfodol yn rhannu ein pryderon dros un o’r materion hawliau dynol dybryd ein cenhedlaeth ac yn sefyll gyda ni wrth chwilio am gyfiawnder i’r bobol sydd wedi’u gormesu ym Mhalesteina,” meddai.

“Dylai’r Senedd wneud mwy, a galw am i gyfraith ryngwladol fod yn berthnasol i bawb ac i gadoediad parhaol gael ei sicrhau.

“Ar ben hynny, dylai Llywodraeth Cymru wneud yr hyn sy’n angenrheidiol i hwyluso cymorth dyngarol anghyfyngedig i’r rhai sydd mewn angen dybryd yn Gaza.

“Dylai cyhoedd Cymru gael Prif Weinidog sy’n angerddol dros heddwch a chyfiawnder i bawb, a fydd yn cynrychioli barn y cyhoedd ehangach.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen Prif Weinidog arnom a fydd yn herio’r Sefydliad Prydeinig sydd, boed yn ymwybodol neu’n isymwybodol, yn parhau i bropio cyfundrefn apartheid Israel.”

‘Llais pwerus dros gyfiawnder a heddwch’

“Gofynnwn i’n Prif Weinidog nesaf gymeradwyo ein naw addewid i wneud Cymru’n llais pwerus ar lwyfan y byd dros gyfiawnder a heddwch,” meddai Adam Johannes o Cardiff Stop the War.

“Mae’n rhaid i Gymru gefnogi hawl Palestiniaid i fyw yn rhydd o feddiannaeth filwrol a gwarchae, dinasyddiaeth anghyfartal a deddfau hiliol, a gwersylloedd ffoaduriaid ac alltudiaeth.

“Mae ein haddewidion yn amrywio o ofyn i Lywodraeth Cymru ymuno â’r mwyafrif o’n byd i fynnu cadoediad ar unwaith; symud polisïau cyfredol o blaid diwydiannau arfau sy’n cyflenwi Israel a chamdrinwyr hawliau dynol eraill tuag at ddiwydiannau gwyrdd y dyfodol; a gefeillio cenedl i genedl o Gymru a Phalesteina i ddod ag ysgolion, prifysgolion, ysbytai, ffermwyr, menywod, grwpiau ffydd, sefydliadau gwleidyddol a diwylliannol o’n gwledydd.

“Byddwn yn defnyddio ein cymunedau i bwyso ar y ddau ymgeisydd i sefyll dros ryngwladoliaeth, heddwch, undod a hawliau dynol.”

‘Nid yn fy enw i’

Yn ôl yr ymgynghorydd ac ymgyrchydd Nelly Adam, mae angen i Gymru ddangos ei gwerthoedd fel Cenedl Noddfa a galw am gadoediad parhaol.

“Mae Cymru’n honni ei bod yn Genedl Noddfa,” meddai.

“Lansiodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth i’w orfodi erbyn 2030.

“Fe wnaeth Cymru sefyll dros bobol Wcráin, felly mae wedi dangos y gallu i weithredu mewn argyfwng.

“Felly, yn wyneb hil-laddiad, gyda hiliaeth yn cynyddu’n gyflymach nag o’r blaen, mae pobol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefyll am y gwerthoedd maen nhw’n pregethu.

“Ta waeth ei fod yn genedl ddatganoledig- mae’n hen bryd iddi sefyll ei thir a dweud: ‘Nid yn fy enw i’.

“Does dim lle i dawelwch o fewn grym.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru alw am gadoediad parhaol ar unwaith.”

‘Hawliau democrataidd llawn’

“Rhaid i Brif Weinidog Cymru adlewyrchu’r farn boblogaidd yng Nghymru o ran cefnogi hawliau democrataidd llawn Palesteina,” meddai Clive Haswell, cadeirydd Ymgych Undod Palesteina Caerdydd.

“Hyd nes y bydd Israel yn barod i ddilyn cyfraith ryngwladol a rhoi hawliau o’r fath, dylid atal pob cymorth milwrol, economaidd a diplomyddol.

“Gall Cymru, drwy ei Phrif Weinidog, chwarae rhan bwysig wrth gyflawni hyn.”