Mae gan Bwyllgor Cyllid y Senedd bryderon difrifol ynghylch a fydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn diogelu gwasanaethau rheng flaen.
Er bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi sicrwydd i bobol y bydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu, mae’r Pwyllgor Cyllid o’r farn – ar sail y dystiolaeth gafodd ei chyflwyno iddyn nhw – na fydd y Gyllideb hon yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor yn dadansoddi cynlluniau gwariant a threthiant arfaethedig y Llywodraeth, ac yn dod i’r casgliad nad yw’n debygol y bydd y cyllid gaiff ei ddyrannu i awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol yn ddigon i gadw gwasanaethau ar lefel dderbyniol.
Fel rhan o’r cynlluniau gwariant, caiff mwy o arian ei ddyrannu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Thrafnidiaeth Cymru.
Fodd bynnag, mae’r pwyllgor yn pryderu nad oes unrhyw gynllun ar waith i fonitro effaith y gwariant ychwanegol hwn.
Pryder arall i’r Pwyllgor yw’r cynnydd arfaethedig mewn gwariant ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, heb gynnydd cyfatebol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.
Mae’r pwyllgor yn croesawu’r arian ychwanegol hwn, medden nhw, ond gan ychwanegu y gallai’r galw cynyddol am ofal cymdeithasol mewn sefyllfa lle nad oes rhagor o gyllid ar gael arwain at bwysau canlyniadol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai’r pwyllgor.
‘Effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed’
Yn ôl y pwyllgor, mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen ar draul mesurau hirdymor i leihau tlodi.
Dywed y pwyllgor nad ydyn nhw wedi’u hargyhoeddi ynghylch yr esboniadau gafodd eu rhoi gan Lywodraeth Cymru ynghylch eu penderfyniadau i beidio ymestyn prydau ysgol am ddim a gofal plant.
Roedd tystiolaeth gafodd ei chyflwyno i’r pwyllgor yn egluro mai cost “gymharol fach” fyddai’n gysylltiedig ag ymestyn y meini prawf cymhwystra ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd i blant â rhieni’n derbyn Credyd Cynhwysol.
Mae’r pwyllgor yn dadlau bod darparu prydau maethlon i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn rhan bwysig o fynd i’r afael â phroblemau tlodi hirdymor, ac yn galw ar y gweinidog i edrych eto i weld a oes modd ymestyn y cynllun.
Mae toriad o £11m yn y ddarpariaeth gofal plant hefyd yn destun pryder, meddai’r pwyllgor.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, y rheswm dros y toriad yma yw’r diffyg galw am y cynllun presennol.
Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor fod dyluniad y cynllun a’r modd mae’n cael ei weithredu, o bosib, yn atal rhieni rhag cael mynediad iddo.
“Mae’r cynnig presennol o 30 awr o ofal plant am ddim yn golygu nad yw’r rhai sy’n dymuno gweithio’n llawn amser yn gallu elwa’n llawn arno,” meddai’r pwyllgor.
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effeithiolrwydd y cynllun presennol ac i sicrhau bod y system gofal plant yn galluogi ac yn annog rhieni i weithio’n llawn amser.
“Rydym yn cydnabod y sefyllfa ariannol anodd y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu, ond rydym yn pryderu am ei honiadau y bydd y Gyllideb hon yn diogelu gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru,” meddai Peredur Owen Griffiths, cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
“Nid yn unig mae’r Gyllideb hon yn annhebygol o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen; nid ydym ychwaith yn gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur effaith yr arian ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Thrafnidiaeth Cymru.
“Mae’r penderfyniad i beidio ag ymestyn y cynllun prydau ysgol am ddim a’r penderfyniad i dorri gwariant ar ofal plant hefyd yn destun pryder, ac yn bethau fydd yn cael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniadau hyn.”
Pryderon ar draws y Pwyllgorau
Yn ôl Pwyllgor Cyllid y Senedd, mae pryderon ynglŷn â’r Gyllideb Ddrafft ar draws y pwyllgorau eraill hefyd.
Rhoddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig rybudd am effeithiau cronnol ac annisgwyl toriadau i gyllidebau ffermio a chymorth busnes.
“Gallai pob math o ostyngiadau effeithio ar ffermwyr sy’n allforio cig ac yn gwerthu eu cynnyrch i fusnesau lletygarwch lleol,” meddai’r pwyllgor.
Gallai’r rhain gynnwys gostyngiadau mewn cymorth amaethyddol, cymorth busnes a chymorth allforio o ran eu gwerthiannau rhyngwladol, yn ogystal â gostyngiad yn y cymorth lletygarwch gaiff ei ddarparu ar gyfer eu gwerthiannau domestig.
Yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel y byddan nhw’n lansio ymgynghoriad ffurfiol mewn perthynas â’r cynllun i dorri hyd at 2,800 o swyddi, a’r newyddion fod llu o fusnesau blaenllaw eraill wedi cau dros y misoedd diwethaf, mae Pwyllgor yr Economi yn pryderu am gymorth i weithwyr allai golli eu swyddi.
Mae’r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gyllid yn cael ei ddyrannu i raglenni cymorth dileu swyddi, ac i sicrhau eu bod nhw’n barod i ehangu’r rhaglenni hyn os oes angen.
Mae Pwyllgor yr Economi a’r Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro effaith eu penderfyniadau gwariant drwy gydol y flwyddyn.
Yn ôl y pwyllgor, mae monitro yn ystod y flwyddyn yn hanfodol o ran asesu’r hyn sy’n gweithio a’r hyn mae angen ei ailflaenoriaethu.
Mae’r pwyllgor hefyd yn pryderu y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol dorri cyllidebau addysg er mwyn talu costau’r cytundeb ar gyflogau athrawon.