Mae dyn fu’n gaeth i gocên wedi sefydlu clwb cerdded newydd yn Eryri er mwyn helpu eraill sy’n adfer o effeithiau caethiwed.
Ar ôl brwydro yn erbyn caethiwed i gocên ers dros ugain mlynedd, dychwelodd Rob Havelock i Borthmadog o Fanceinion i fynd i’r afael â’i ddibyniaeth.
Yn dilyn taith i fyny’r Wyddfa ag elusen adferiad, disgynnodd mewn cariad â mynydda, fu’n gymorth mawr iddo ar ei daith i fod yn sobor.
Bellach, mae wedi sefydlu clwb Sober Snowdonia i gynnig “awyrgylch diogel” i bobol sy’n gaeth neu’n gwella i ddod at ei gilydd a rhannu eu profiadau wrth eu cyflwyno i fynyddoedd Eryri.
“Awyrgylch diogel” yn y mynyddoedd
Fel un sy’n byw â chaethiwed, roedd Rob Havelock yn awyddus i ddangos y gwyrthiau mae mynydda wedi’u gwneud iddo ar ei siwrne o fod yn sobor.
“Pan ti yng nghanol caethiwed, ti’n sownd mewn swigen ac mae o’n anodd gofyn am help er bod o’n gyfnod lle ti ei angen o,” meddai wrth golwg360.
“Felly, roeddwn i’n meddwl y bysa’n syniad da rhoi’r cynnig allan i bobol sydd eisiau awyrgylch diogel i fynd a siarad efo pobol sydd wedi bod trwy be’ maen nhw’n mynd trwyddo.
“Mae o wedi bod yn syniad dw i wedi bod efo ers ychydig o fisoedd, achos dw i wedi bod yn gaeth i gocên fy hun dros y blynyddoedd.
“Dw i flwyddyn yn lân rŵan heb ddiod na chyffuriau, ac mae cerdded y mynyddoedd wedi helpu fi llwyth efo aros yn sobor.
“Mae bod allan yn y mynyddoedd a chael awyr iach yn beth mor dda i iechyd meddwl, ac yn helpu i glirio dy feddwl.
“Mae o’n rywle i feddwl am bob dim a’r llun ehangach.
“Dw i eisiau rhannu hyn efo pobol eraill sy’n cael trafferth, ac efallai dydy o ddim iddyn nhw, ond os alla i helpu un person, dw i’n curo.
“Bysa hyn yn gallu helpu dwnim faint o bobol fel fi fy hun, ac mae o ar ein stepen drws ni yn fan hyn yng ngogledd Cymru.
“Mae o’n le i bobol ddod i nabod pobol sydd wedi bod trwy be’ maen nhw’n mynd trwyddo ar y funud, a chyfarfod pobol sydd wedi gwella.
“Mae o’n dangos iddyn nhw eu bod nhw’n gallu gwella a bod yna fywyd allan yna iddyn nhw fyw.
“A does yna ddim unlle gwell i fynd allan a magu hyder a dangos bod pethau’n bosib nag Eryri.
“Mae o’n gam positif at ymuno efo cymdeithas eto hefyd, achos ti’n gallu ynysu pan wyt ti yn ei chanol hi efo cyffuriau.”
Bu ymateb da i daith gerdded gynta’r clwb, wrth i griw o 16 ymuno â Rob Havelock i gerdded i gopa’r Garn yn Nyffryn Ogwen.
Mae bellach yn bwriadu cynnal y clwb cerdded ar ddydd Sul olaf pob mis, a bydd mwy o fanylion i ddod ar dudalen Facebook Sober Snowdonia.
“Mae’r ymateb wedi bod yn wyllt ond yn wych,” meddai.
“Dw i wedi cael lot o negeseuon gan bobol – bob dim yn dda – efo diddordeb, eisiau cymryd rhan ac eisiau gwybod mwy amdano fo.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fo fynd mor dda.”
O Fanceinion i Borthmadog
Bu Rob Havelock yn gaeth i gocên am gyfnod o ryw ugain mlynedd, ac mae’r cyffur wedi cael effaith ddinistriol ar ei fywyd, meddai.
“Wnes i ddechrau cymryd cocên ddim llawer ar ôl i fi adael yr ysgol, felly dw i’n 39 oed rŵan ac roeddwn i’n gaeth ers fy arddegau hwyr.
“Wnes i jest ddim stopio’i gymryd o, felly dw i’n gaeth iddo fo o’r dechrau.
“Ond aeth o’n waeth ac yn waeth dros y blynyddoedd, ac roeddwn i’n ei gymryd bron bob dydd yn y diwedd.
“Roeddwn i’n byw ym Manceinion, wnes i briodi yno, cael mab yno a chael morgais, ond wnaeth y broblem efo cyffuriau wir gymryd drosodd.
“Doedd dim byd arall yn poeni fi, dim ond cyffuriau.
“Doeddwn i ddim yn poeni am fy mab, a doeddwn i ddim yn poeni am fy ngwraig.
“Wnes i golli bob dim, ac roedd o’n amser i fi symud yn ôl i Gymru – i Borthmadog – i drio sortio fy hun allan.”
Dyna pryd y daeth Rob Havelock o hyd i elusen North Wales Recovery Communities ym Mangor, wnaeth ei gyflwyno i’r byd mynydda.
“Fe wnaethon nhw gynnal taith i fyny’r Wyddfa yn 2022, a hwnna oedd y tro cyntaf i fi gerdded fyny mynydd,” meddai.
“Roedd o’n agoriad llygaid i rywbeth hollol newydd ar ôl bod yn sownd mewn dinas am bymtheg mlynedd.
“Wnes i sylwi faint o’n i wedi colli byw yng Nghymru, a faint o amser roeddwn i wedi wastio ddim yn cerdded y mynyddoedd yma.
“Es i yn ôl at gyffuriau am ychydig, ond wnes i ddisgyn mewn cariad efo cerdded a mynd yn ôl i mewn i recovery a chael fy iechyd meddwl yn ôl.
“Pan wyt ti’n gaeth, ti’n casáu bywyd ac mae gen ti ofn taclo bywyd.
“Ond dw i erioed wedi teimlo fel hyn yn fy mywyd.
“Dydw i erioed wedi bod mor hapus, ac mor gyfforddus yn fy hun.”