Mae angen i arwyddion newydd â’r enw Saesneg ‘Aberdovey’ arnyn nhw gael eu tynnu lawr a’u cywiro, yn ôl Cynghorydd o Bowys.

Ers i’r bont newydd dros afon Dyfi ym Machynlleth agor, mae arwyddion wedi’u codi yn cynnwys yr hen ffurf Saesneg ar bentref Aberdyfi yng Ngwynedd.

Yn ôl Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Comisiynydd y Gymraeg, ‘Aberdyfi’ ydy’r ffurf safonol yn Saesneg hefyd.

Dydy ‘Aberdovey’ heb gael ei ddefnyddio fel y fersiwn Saesneg “ers degawdau”, yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys.

“Fe wnaeth pobol [pentref] Pennal gysylltu efo fi’r wythnos ddiwethaf ar ôl yr holl ffỳs o agor y bont newydd, eu bod nhw’n sylweddoli bod arwyddion mawr newydd ag . mewn Saesneg crand, llygredig wedi’u gosod yna,” meddai wrth golwg360.

“Roeddwn i’n sylwi neithiwr bod yna arwydd tebyg ger cloc Machynlleth.

“Dyna ydy’r pwynt, tynnu sylw at y nonsens llwyr – bod o’n gam yn ôl os rhywbeth.

“Beth ydyn ni’n mynd i’w gael nesaf? Caernarvon efo ‘v’? Portmadoc? Neu Port Dinorwic?”

‘Dangos parch dyledus’

Fe wnaeth y bont dros afon Dyfi agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf ddydd Gwener (Chwefror 2), gan ddisodli’r hen bont oedd yn dioddef llifogydd yn aml.

Mae’r bont yn werth £46m, a hwn oedd un o’r prosiectau cyntaf i gael eu cwblhau ers i Lywodraeth Cymru adolygu bob cynllun i adeiladu ffyrdd newydd.

Ar X (Twitter gynt), dywed Traffig Gogledd a Chanolbarth Cymru wrth Elwyn Vaughan mai ‘Aberdovey’ yw’r cyfieithiad Saesneg ar gyfer Aberdyfi a’u bod nhw’n cynnwys y ddau ar eu harwyddion. Ar ôl iddo anfon copi o’r Rhestr Enwau Lleoedd Safonol, fe wnaethon nhw ddweud y byddan nhw’n ymchwilio i’r mater.

“Yn y bôn, rydyn ni eisiau iddyn nhw eu tynnu nhw lawr, eu cywiro nhw a dangos y parch dyledus at y Gymraeg.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn ystyried y mater hwn a byddwn yn trafod ymhellach gydag awdurdodau lleol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Agor pont newydd dros afon Dyfi

Bydd y bont yn gwella mynediad at wasanaethau addysg ac iechyd, tra bydd hefyd yn ymateb i heriau amgylcheddol