Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, ymhlith criw o bobol fydd yn teithio i Wcráin yr wythnos hon gyda’r pymthegfed cerbyd cymorth o Gymru.

Bydd y tri cherbyd yn gadael ddydd Gwener (Chwefror 9) ac yn cludo nwyddau meddygol, bwyd a dillad i filwyr ar y rheng flaen.

Erbyn i’r cerbyd olaf gyrraedd, bydd pymtheg o gerbydau a nwyddau gwerth £1m wedi’u rhoi fel rhan o fenter rhwng y ddwy wlad.

Erbyn i’r cerbydau gyrraedd, bydd hi’n ddwy flynedd bron ers i Rwsia ymosod yn anghyfreithlon ar eu cymdogion, a bron i ddeugain mlynedd hefyd ers Streic y Glowyr yng Nghymru.

Bydd y nwyddau’n cael eu rhoi i undebau glowyr, sy’n trefnu i nwyddau gael eu dosbarthu i’r rheng flaen.

‘Cefnogaeth hael’

Mae Mick Antoniw, sy’n cynrychioli Pontypridd yn y Senedd, wedi canmol cyfraniadau hael pobol o Gymru at yr achos.

“Wrth i ni agosau agosáu at ddwy flynedd ers rhyfel anghyfreithlon Putin, dw i’n ostyngedig fod pob rhan o’r gymdeithas Gymreig yn parhau i fod mor hael eu cefnogaeth,” meddai.

“Mae’r holl gerbydau sy’n cael eu rhoi yn cael eu defnyddio ar y rheng flaen, yn aml fel ambiwlansys.

“Rydyn ni’n gwybod o adroddiadau gan y milwyr eu hunain fod y bwyd, y dillad a’r nwyddau meddygol rydyn ni’n eu darparu’n gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Dw i wedi clywed sôn am ‘flinder gwrthdaro’, ond nid dyna fy mhrofiad i, ac mae pobol Cymru, busnesau megis Alcumus yn fy etholaeth fy hun, Undeb Cenedlaethol y Glowyr ac undebau llafur yn parhau i ddangos eu cefnogaeth ariannol ac o ran eu hamser i Wcráin.”

‘Testun boddhad’

“Mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi bod yn falch o gael bod yn rhan weithredol o’r fenter cymorth hon o’r dechrau’n deg,” meddai Wayne Thomas, is-lywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

“A hithau bron yn ddeugain mlynedd ers Streic y Glowyr, mae’n destun boddhad arbennig gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymrodwyr Wcreinaidd yn undebau glofaol Independent a Pablograv, roddodd y fath gefnogaeth anhygoel i Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod Streic y Glowyr.”