Mae rhieni yng Nghymru’n cael eu hannog i wirio statws brechu MMR eu plant, wrth i Brif Swyddog Meddygol Cymru fynegi pryder am gynnydd mewn achosion o’r frech goch.
Mae Dr Frank Atherton hefyd yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael yr holl imiwneiddiadau ddylen nhw fod wedi’u cael.
Dywed ei bod hi’n debygol y bydd cynnydd mewn achosion oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i gynyddu nifer y plant sydd wedi’u brechu yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR).
Mae’n anelu at sicrhau bod 95% o blant wedi cael cwrs llawn, neu ddau ddos, o’r brechlyn MMR – dyna darged Sefydliad Iechyd y Byd hefyd.
Y frech goch
Mae’r frech goch yn lledaenu’n hawdd iawn ymhlith y rhai sydd heb eu brechu, yn enwedig mewn meithrinfeydd ac ysgolion.
Gall plant sy’n dal y clefyd fynd yn sâl iawn ac, mewn rhai achosion, gall y frech goch arwain at orfod mynd i’r ysbyty ac, yn anffodus, mewn achosion prin, gall arwain at farwolaeth.
Mae pobol mewn rhai grwpiau sydd mewn perygl, gan gynnwys babanod a phlant ifanc, menywod beichiog, a phobol ag imiwnedd gwan, yn wynebu mwy o berygl o gymhlethdodau o ganlyniad i’r frech goch.
Mae’r MMR yn rhan o’r Rhaglen Imiwneiddio Rheolaidd i Blant – gydag un dos yn cael ei gynnig pan fydd plentyn yn flwydd oed ac ail ddos pan fydd yn dair oed a phedwar mis.
Caiff rhieni nad yw eu babanod wedi cael y brechlyn, neu unrhyw un o unrhyw oedran nad yw wedi cael y brechlyn eto, eu hannog i ddod ymlaen.
Mae’r brechlyn MMR am ddim yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn rhag y frech goch, yn ogystal â chlwy’r pennau a rwbela.
Gydag achosion o’r Pas hefyd ar gynnydd yng Nghymru, mae Syr Frank Atherton yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod nhw wedi cael eu brechiadau Pertussis (y Pas).
Er bod y Pas yn glefyd mae modd ei atal drwy frechu, mae’n heintus iawn, gyda babanod o dan 6 mis oed yn wynebu’r risg fwyaf.
Diogelu plant
“Mae angen i ni sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag heintiau feirysol a allai fygwth bywyd, fel y frech goch a’r Pas,” meddai Dr Frank Atherton.
“Gall y frech goch wneud plant yn sâl iawn a bydd rhai plant sy’n ei ddal yn dioddef cymhlethdodau sy’n newid bywyd.
“Gall rhieni ddiogelu eu plant trwy wneud yn siŵr eu bod wedi’u brechu’n llawn. Os nad ydynt, dylid trefnu iddynt gael eu brechu cyn gynted â phosibl.
“Ni all babanod o dan un oed gael y brechlyn. Felly, mae’n hanfodol bod pawb sy’n gymwys yn cael eu brechu’n llawn.
“Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y frech goch a bydd yn helpu i ddiogelu ein plant ieuengaf.”
Annog byrddau iechyd i weithredu
Mae Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yn gofyn iddyn nhw gymryd camau ar frys i sicrhau bod o leiaf 90% o fyfyrwyr ym mhob ysgol yng Nghymru wedi’u brechu’n llawn erbyn Gorffennaf 31.
Bydd yr ymyrraeth hon wedi’i thargedu yn ategu’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan fyrddau iechyd i ddal i fyny ag apwyntiadau i roi’r MMR.
“Pan fydd brigiad o achosion, gellid gofyn i fyfyrwyr a staff sydd heb eu brechu, neu sydd heb gael dos llawn o’r brechlyn, i ynysu am hyd at 21 diwrnod i atal y clefyd ffyrnig iawn hwn rhag lledaenu,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod y gall hyn darfu ar addysg a llesiant ein pobl ifanc ac mae’n rhaid i ni wneud popeth posibl i’w osgoi.
“Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos ar gynlluniau pellach i roi hwb i’r niferoedd sy’n cael yr MMR yn ystod y misoedd nesaf.”