Bydd Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ymysg siaradwyr rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4.

Bydd y rali ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr yn pwysleisio’r angen am Ddeddf Eiddo i sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel angen cymunedol, nid asedau masnachol, fel bod pobol yn gallu parhau i fyw a gweithio yn eu cymunedau.

Ymysg y siaradwyr eraill fydd y Cynghorydd Craig ab Iago, deiliad portffolio tai Cyngor Gwynedd; a’r cerddor lleol Gai Toms.

Bydd y rali’n cael ei chyflwyno a’i harwain gan Joseff Gnagbo, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a’r cynghorydd tref lleol Dewi Prysor.

Yn ystod y rali, bydd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis yn cyflwyno galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai” y Gymdeithas i’r Llywodraeth:

“Galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i greu marchnad dai addas at anghenion Cymru, ac i rymuso’n cymunedau lleol. Ni all ein cymunedau aros rhagor – mae’n bryd gweithredu.”

Bydd y siaradwyr ac arweinwyr lleol yn llofnodi’r datganiad ar ddiwedd y rali, a bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno’r alwad i’r Llywodraeth ar Faes Eisteddfod yr Urdd fis Mai.

‘Argyfwng yn wynebu cymunedau Cymraeg’

“Rydym yn disgwyl i gannoedd fynychu i ddangos maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg ac i ddatgan na wna unrhywbeth llai na Deddf Eiddo y tro,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

“Mae cymunedau Cymraeg yn prinhau wrth i’w trigolion fethu â chystadlu yn y farchnad agored a chael eu gorfodi i adael.

“Rydym yn agosáu at y misoedd olaf lle bydd cyfle ymarferol i’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth a’i phasio cyn diwedd tymor y Seneddol.

“Edrychwn ymlaen yn ofnadwy i weld ystod eang o bobol sy’n credu yn nyfodol Cymru a chyfiawnder cymdeithasol yn ymuno â’r alwad i fynnu Deddf Eiddo ar benwythnos Gŵyl Ryngwladol y Gweithwyr.”

Mae trefnwyr y rali, y cyntaf o ddwy eleni, yn gobeithio y bydd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Yr Hawl i Dai Digonol a Rhenti Teg, ac ar adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sydd yn cael eu cyhoeddi yn yr haf.

Bydd yr ail rali ym Machynlleth ar Fedi 14 yn ymateb i’r cyhoeddiadau.