Credwn mewn Un Eglwys Lân Gatholig a Digidol.

Mae’r aralleiriad hwn o Gredo Nicea yn ddigon credadwy. Ond pam Digidol yn hytrach nag Apostolaidd?

I’r Cristnogion slawer dydd, roedd y gair Apostolaidd yn arwydd o barhad – yr eglwys heddiw yn barhad o’r eglwysi gafodd eu sefydlu gan yr Apostolion gynt. Roedd Un Eglwys Lân Gatholig ac Apostolaidd yn gynhaliaeth heddiw, ac yn obaith i yfory.

Gellid cyfnewid Digidol am Apostolaidd yn hawdd ddigon heddiw gan i grefydd, fel popeth arall, fynd yn ddigidol! Mae’r rhyngrwyd yn drwch o grefydd, mae hyn yn adlewyrchu ac yn cynnal diddordeb enfawr ein cyfnod mewn ysbrydolrwydd. Aeth crefydd yn ddigidol, a chafodd Archfarchnad Ysbrydol ei chreu, a honno ar agor drwy’r dydd, bob dydd. Mae yno bob lliw, llun a llewyrch o ysbrydolrwydd!

Mae hyn yn anodd iawn ar yr Eglwys Leol, ac o’r herwydd mae’r enwadau gwario egni, amser ac arian mawr yn cystadlu â’r hyn sy’n datblygu o’u cwmpas. Nid oes cystadleuaeth. Cafodd honno ei cholli degawdau yn ôl. Yn y farchnad grefyddol gyfoes, mae eglwysi’r enwadau traddodiadol yn debyg i Siop Gornel. Mae’n gwbl amhosibl i ni gynnig y fath ystod o wahanol brofiadau a chyfleoedd ysbrydol gaiff eu cynnig gan yr Archfarchnad Grefyddol Ddigidol.

Mae’r Archfarchnad Grefyddol yn gofyn llai – llawer llai – gan y cwsmer na’r Siop Gornel. Mae siopa yn yr Archfarchnad yn hawdd, gan fod popeth a rhagor yno’n gyfleus a hwylus: dim hen adeilad i’w gynnal; dim trafferth parcio; dim seddau caled; dim gweinidog, dim organ, dim emynau, dim dillad dydd Sul, dim plât casglu, dim pobol eraill. Na, dim pobol eraill go iawn; dim ond fi’n pori’r gwefannau yn chwilio am rywbeth sy’n siwtio fi.

Be’ sydd i’w wneud felly? Wn i ddim beth yw’r ateb, ond awgrymaf hyn: rhaid i’r Siop Gornel wybod beth ydyw! Rhaid i’r Siop Gornel gydnabod, datgan a dathlu’r hyn oll ydyw. Hen ydyw, hen ffasiwn ydyw; calon cymdeithas ydyw. Nid yr Archfarchnad mohoni. Mae honno’n cynnig popeth, ac o’r herwydd yn cynnig dim yn benodol. Rhaid i’r Siop Gornel, felly, wybod beth yn benodol sydd gennym i’w gynnig, a rhaid bod yn glir – a gonest – am hynny. Cynnig crefydd heb y cymhlethdodau mae’r Archfarchnad Grefyddol Ddigidol. Mae’r apêl yn amlwg, a dyna pam mae cymaint o’n pobol a’n heglwysi yn ildio mor hawdd i ‘fendithion’ y digidol, ac yn eu hyrwyddo mor ewn. Mae’r Siop Gornel yn cynnig rhywbeth cwbl wahanol a real: crefydd gyda’r cymhlethdodau. Beth yw’r cymhlethdodau hyn? Ni! Pobol! Mae’r Siop Gornel draddodiadol yn cynnig crefydd nad yw’n osgoi pobol eraill, ond sydd yn ddibynnol arnyn nhw. Er bod yr Archfarchnad yn haws, mae’r hyn sydd gan y Siop Gornel i’w gynnig yn well. Y gamp yw sicrhau bod yr hyn sydd gennym ar ein silffoedd yn ffres, ac o safon dda; dyma sydd ei angen ar bobol, a dyma sydd angen i ni ei ddarparu ar eu cyfer:

Credwn yn Un Eglwys Lân Gatholig ac Apostolaidd.