Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi mynegi pryderon nad oes atebion wedi’u cynnig 13 mlynedd ers trychineb Glofa’r Gleision, pan fu farw pedwar o weithwyr yng Nghwm Tawe.
Mae ganddi “bryder dwfn” am oedi pellach i’r cwest hirddisgwyliedig i’r trychineb yng Nglofa’r Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe, meddai.
Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins yn y digwyddiad.
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu gan y teuluoedd am gwest, gan gynnwys gan Sioned Williams, fe wnaeth y crwner orchymyn cwest llawn ym mis Rhagfyr 2022.
Er bod telerau’r cwest wedi’u cytuno fis Mawrth y llynedd, cafodd gwrandawiad cyn cwest fis Medi ei ganslo ar fyr rybudd.
Ar ôl i’r gwrandawiad gael ei ganslo, ysgrifennodd Sioned Williams at Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De, i fynegi pryderon fod teuluoedd yn cael eu “gadael yn y tywyllwch”.
Wrth ymateb i’w llythyr, dywedodd y Ditectif Brif Uwch Arolygydd Ceri Hughes fod “oedi” yn y broses o gynnal y cwest, o ganlyniad i wybodaeth ddaeth i law’r heddlu, oedd yn methu “darparu amserlen” ar gyfer y cwest.
‘Rhy hir o lawer i aros’
“Mae teuluoedd y pedwar dyn gollodd eu bywydau yn Nhrychineb Glofa’r Gleision yn ymwybodol mai’r hyn sy’n bwysig yw canfod y gwir, nid pa mor gyflym y mae hyn yn digwydd,” meddai Sioned Williams.
“Eto i gyd, mae’n anodd peidio â chytuno bod tair blynedd ar ddeg yn rhy hir o lawer i aros am atebion am yr hyn a ddigwyddodd i’w hanwyliaid.
“Mae’r teuluoedd hyn wedi gorfod brwydro mor galed i sicrhau bod y cwestiynau cywir yn cael eu gofyn, heb sôn am ddod o hyd i’r atebion, ac roedd y cwest i fod yn rhan hanfodol o hynny.
“Mae’r ffaith fod blwyddyn wedi mynd heibio ers cytuno ar delerau’r cwest yn achosi mwy o ofid.
“Ers hynny, ni fu unrhyw arwyddion amlwg o gynnydd, ac ni fu cyswllt gan gefnogaeth i ddioddefwyr ychwaith. Am y rheswm hwn, gofynnais i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Alun Michael, gamu i mewn a sicrhau bod y teuluoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf mae arnyn nhw ei hangen ac yn ei haeddu.
“Yn syml, nid yw clywed am oedi pellach oherwydd y wybodaeth a dderbyniwyd y llynedd yn dderbyniol.”