Mae apêl wedi’i lansio am hen luniau a straeon am hen stondinau llaeth Sir Gaerfyrddin.

Tan ddiwedd y 1970au, roedd lorïau’r Bwrdd Marchnata Llaeth yn casglu llaeth o’r stondinau, oedd fel arfer ar ben lonydd ffermydd.

Ar ôl dychwelyd i fyw yn Sir Gâr, dechreuodd Anthony Rees sylwi ar yr hen stondinau llaeth a meddwl a oes cofnod ohonyn nhw yn rhywle.

Wedi cysylltu â’r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru ac Archifdy Sir Gaerfyrddin, cafodd wybod nad oes yna’r un casgliad o’r fath.

Yn sgil hynny, mae Anthony Rees yn cynnal prosiect ar y cyd â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin i dynnu lluniau a chasglu gwybodaeth a hen straeon am y stondinau yn y sir.

Bydd y casgliad hwn yn cael ei gadw yn Archifau Sir Gaerfyrddin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer y dyfodol.

“Tyfais i lan ar fferm odro tu fas Llanelli, a pan oeddwn i’n grwt dw i’n cofio’r stondinau a’r buddai ac ati, ac wedyn es i i’r brifysgol yn Aberystwyth, i Lundain am 30 mlynedd, a phan ddaethon ni’n ôl i Sir Gâr a phrynu smallholding, roeddwn i’n eu gweld nhw wrth yrru ambwyti,” meddai Anthony Rees wrth golwg360.

“Smo nhw wedi cael eu defnyddio ers y 1970au, ac maen nhw’n pydru, lot ohonyn nhw wedi diflannu dros y blynyddoedd, a does dim lot o neb yn edrych ar eu holau nhw.

“Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n drueni. Roedd Sir Gâr yn Wales’ premier dairy county.

“Mae’r rhain fel archaeoleg ddiwydiannol.

“Does dim byd prydferth ambwyti nhw, ond maen nhw’n rhoi stori o’r ardal. Nhw oedd y cysylltiad economaidd rhwng y fferm a’r Bwrdd Marchnata Llaeth.

“Mewn 50… 100… 200 o flynyddoedd, byddai pobol yn dweud ei bod hi’n drueni bod dim cofnodion gyda nhw o be’ oedd y rhain.

“Yn y 1970au, roedd rhywbeth fel 1,800 o ffermydd llaeth yn Sir Gâr, ond nawr mae llai na 400.”

Stondin laeth ger Crymych yn Sir Benfro

Apêl agored

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc y sir yn mapio a thynnu lluniau o stondinau llaeth sydd wedi goroesi, ac yn casglu gwybodaeth am eu maint ac ati.

Er hynny, mae Anthony Rees yn gwneud galwad agored am ragor o wybodaeth gan y cyhoedd hefyd.

“Yr ail beth ydy ffeindio hen luniau, bydd bownd o fod hen luniau gyda phobol,” meddai.

“Dw i’n trio gweld os fedra i roi apêl mas i bobol edrych yn eu hen luniau i weld os oes hen luniau o’r stondinau.

“Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi cytuno i sganio’r hen luniau fel bod yr hen luniau yn mynd yn ôl i bobol.

“Y trydydd peth yw straeon pobol sydd wedi defnyddio nhw – crwt oeddwn i – ond y ffermwyr, maen nhw am fod yn eu 80au a’u 90au nawr.

“Byddai’n ffantastig i ffeindio gyrwyr loriau oedd yn eu defnyddio nhw.

“Unwaith dw i’n dechrau siarad gyda rhywun ambwyti nhw, mae straeon gyda nhw.”

Mae’r prosiect hefyd yn chwilio am unrhyw arteffactau sy’n ymwneud â stondinau llaeth, boed yn ddogfennau, llythyrau, datganiadau neu labeli corddi llaeth.

Ynghyd â rhoi’r casgliad i’r archifdy, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Amgueddfa Genedlaethol, bydd yr hen luniau a’r rhai newydd yn mynd tuag at Gasgliad y Werin, a’r recordiadau llais yn cael eu harchifo gan Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae modd cyfrannu drwy anfon e-bost at milkstands@proton.me, neu drwy fynd â lluniau neu arteffactau at Glwb Ffermwyr Ifanc lleol neu i Swyddfa Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin.