Mae Plaid Cymru’n galw ar y Blaid Lafur i ddatgan argyfwng iechyd ac i nodi amserlen glir i ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Gan gyhuddo Llafur o fethu â mynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i osod cyfeiriad clir i fynd i’r afael â statws uwchgyfeirio holl fyrddau iechyd Cymru.
Bydd Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher, Chwefror 7) yn arwain dadl yn y Senedd ar yr “argyfwng” sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
‘Pobol Cymru yn haeddu gwell’
Flwyddyn yn ôl, nododd y Llywodraeth Lafur eu blaenoriaethau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Ers hynny, mae cleifion sy’n aros am driniaeth wedi cynyddu, mae mwy yn aros dros 62 diwrnod i gychwyn triniaethau canser, ac mae nifer y meddygon teulu wedi gostwng.
Ar ôl cyhoeddi ddiwedd y llynedd fod pob bwrdd iechyd wedi’u rhoi mewn rhyw fath o statws ymyrraeth, mae tri bwrdd iechyd allan o saith bellach wedi bod yn destun statws uwchgyfeirio pellach dros yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae angen “cyfeiriad clir” ar y Gwasanaeth Iechyd, yn hytrach nag atebion tymor byr a “thaflu arian at broblem gan obeithio y bydd yn diflannu”.
“Er gwaethaf ymdrechion arwrol staff y gwasanaeth iechyd ledled Cymru i roi’r gofal gorau y gallan nhw o dan amgylchiadau heriol, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dan Lafur ar ei liniau.
“Mae dros hanner o gleifion canser yn aros mwy na dau fis i ddechrau triniaeth, mwy o bobol yn aros dros bedair awr i gael eu gweld mewn adrannau brys, nifer y meddygon teulu yn gostwng yn gyflym, ac mae pob un bwrdd iechyd yng Nghymru mewn rhyw fath o statws ymyrraeth.
“Er ein bod yn cytuno nad yw setliad ariannol Cymru o Lundain yn ddigonol i gwrdd ag anghenion, mae’r Llywodraeth Lafur yn rhy aml yn taflu arian da ar ôl drwg pan mae’n dod at y Gwasanaeth Iechyd.
“Dim ond wythnosau sydd wedi mynd heibio ers iddyn nhw gyhoeddi £14m i Ysbyty’r Faenor er mwyn gwella diogelwch cleifion – ysbyty newydd sbon wnaeth ond agor ei ddrysau yn 2020.
“Ar ôl degawdau o gamreoli’r Gwasanaeth Iechyd, mae’r Llywodraeth Lafur yma allan o syniadau.
“Yr eironi yw, er bod eu cydweithwyr yn San Steffan yn beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am barhau i daflu arian i’r Gwasanaeth Iechyd yn hytrach na bod yn strategol wrth fynd i’r afael â’i broblemau, mae Llafur yng Nghymru yn gwneud yr un peth.
“Mae pobol ledled Cymru yn haeddu gwell na llywodraeth gyda’i phen wedi’i gladdu yn y tywod ac yn methu wynebu difrifoldeb y sefyllfa.
“Mae Plaid Cymru yn annog Llafur i gyfaddef bod y sefyllfa yn wynebu gwasanaethau iechyd ledled Cymru yn argyfyngus drwy ddatgan argyfwng iechyd, ac i nodi amserlen glir i ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob Bwrdd Iechyd ledled Cymru.
“Mae angen cyfeiriad a strategaeth glir yn hytrach na pharhau i daflu arian at broblem gan obeithio y bydd yn diflannu.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.