Mae prentisiaethau yn “mynd dan y radar”, yn enwedig mewn ysgolion, yn ôl un sydd wedi manteisio ar un o brentisiaethau’r Urdd.
Yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru (Chwefror 5-9), mae Cian Owen yn herio ystrydebau yn y diwydiant gofal plant.
Pwrpas yr wythnos ydy dangos pa brentisiaethau sydd ar gael ledled Cymru mewn 23 gwahanol sector.
Eleni, mae’r ffaith fod toriadau i brentisiaethau yng nghyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn gysgod ar yr wythnos.
‘Herio stereoteipiau’
Prentis Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ym meithrinfa Ffalabalam ym Mangor ydy Cian Owen, sy’n 22 oed ac yn dod o’r ddinas.
Mae wedi canmol ei brentisiaeth gyda’r Urdd am ei helpu i herio ystrydebau yn y diwydiant gofal plant.
“Roedd [gweithio gyda phlant] yn rhywbeth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud ers oeddwn i’n ifanc, pan welais i’r swydd am y wefan fe wnes i wneud cais amdani a doeddwn i ddim yn disgwyl ei chael hi gan mai dyna ydw i,” meddai Cian Owen, sy’n brentis ers tua blwyddyn, wrth golwg360.
“Mae o’n rewarding. Pan ti’n gweithio efo plant efo anghenion ac yn eu gweld nhw’n newid a datblygu, mae o’n deimlad neis gwybod dy fod wedi bod yn rhan o wneud hynna efo help pawb arall.
“Dw i wedi mwynhau gweithio efo plant, a gweld eu gwên nhw os ydyn nhw’n gweld fi. Dw i dal i gael fy ngalw yn ‘anti’, rhywun sydd yn edrych ar ôl, ond dw i jyst yn mynd efo fo, dydy hynny ddim yn fy mhoeni i.”
Mae Cian Owen yn un o ychydig brentisiaid gofal iechyd gwrywaidd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’n gweld pwysigrwydd cael presenoldeb gwrywaidd yn y feithrinfa, yn enwedig i blant sydd heb fodel rôl gwrywaidd adref.
“Dw i’n oce efo [gweithio mewn maes mwy traddodiadol benywaidd],” meddai.
“Pan wnes i drio am y job, wnaeth o ddim dod dros fy mhen i – dyma oeddwn i eisiau ei wneud.
“Mae pawb wedi bod yn dda iawn efo fi, yn gefnogol iawn a gefais i lot o ganmoliaeth yn gynnar iawn gan bobol yn dweud bod o’n neis cael dyn yma.
“Mae’r genod yma wedi helpu fi i ymlacio, ac wedi cymryd fi mewn fel rhan ohonyn nhw.”
‘Dysgu wrth weithio’
Wrth adlewyrchu ar bwysigrwydd prentisiaethau, dywed Cian Owen eu bod nhw’n bwysig i bobol sy’n tueddu i ddysgu wrth wneud rhywbeth ymarferol yn hytrach na thrwy eistedd mewn dosbarth.
“Dw i’n cofio pan oeddwn i yn yr ysgol doedd yna neb yn siarad amdanyn nhw, ddim hyd yn oed yr athrawon,” meddai.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw’n mynd dan y radar efo pobol ddim hyd yn oed yn sylweddoli eu bod nhw yna fel rhywbeth fedran nhw ei wneud, yn lle gorfod mynd i’r brifysgol a gwneud gradd.
“Pan ti’n gwneud y brentisiaeth ti’n gallu dysgu tra ti’n gweithio, dwyt ti ddim yn gorfod mynd i’r dosbarth a dysgu, mae o’n ymarferol a ti’n cymryd y sgiliau mewn wrth wneud o.
“Dw i’n berson sy’n dysgu gan wneud felly mae’r ffordd mae’r brentisiaeth wedi helpu fi, yn enwedig yn y feithrinfa, yn werthfawr oherwydd mae o wedi galluogi fi i ddysgu lot cyflymach nag os fyswn i ond yn eistedd mewn coleg neu rywbeth fel yna.”
‘Rhoi hyder’
Un cwmni sy’n rhoi cyfleoedd i brentisiaid ydy Legal & General, a dywed Elinor Worthington, Ymgynghorydd Datblygu Talent y Dyfodol y cwmni, fod eu prentisiaethau yn rhoi hyder i bobol.
“Rydyn ni’n aml yn gweld datblygiad personol enfawr trwy gydol taith prentisiaeth rhywun, ac maen nhw wir yn tyfu fel pobol,” meddai.
“Mae prentisiaethau yn ffordd wych i bobl ddatblygu eu gwybodaeth neu hyd yn oed ddysgu ystod o sgiliau cwbl newydd, fel y gallant ddiogelu eu gyrfa at y dyfodol.
“Beth bynnag fo’ch oedran, gallwch ddechrau prentisiaeth.
“Os ydych am newid eich gyrfa neu uwchsgilio pan fyddwch yn 40, gall prentisiaeth eich galluogi i wneud hynny, heb orfod ildio cyflog na’ch sicrwydd ariannol.”