Mae ynys Grenada yn y Caribî yn dathlu 50 mlynedd fel gwlad annibynnol heddiw (dydd Mercher, Chwefror 7).

Daeth yr ynys yn annibynnol o Brydain ar Chwefror 7, 1974 a bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal er mwyn nodi’r achlysur.

Yn goron ar y dathliadau mewn trefi a phentrefi ar draws yr ynys fydd tân gwyllt a sioe ddronau, wrth i’w harweinwyr addo sioe na welwyd ei thebyg o’r blaen yno.

Bydd dros 500 o ddronau’n goleuo’r awyr wrth ddatgelu wynebau trigolion a darluniau o lefydd adnabyddus yr ynys.

Bydd yna orymdaith filwrol ar y diwrnod hefyd, gyda chyfres o ddigwyddiadau i ddilyn mewn stadiwm fydd dan ei sang.

Bydd 900 o bobol ifanc hefyd yn cymryd rhan mewn cyflwyniad diwylliannol cyn cyngerdd yn y nos.