Mae Caffi Niwro cynta’r gogledd yn gobeithio cynnig rhywle diogel i bobol â chyflyrau niwrolegol gael cymdeithasu a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd.

Cafodd y Caffi Niwro yn Llanfairfechan yng Nghonwy ei sefydlu fis diwethaf yn Neuadd Gymunedol Llanfairfechan, ac fe fydd ar agor unwaith eto mis yma ac ym mis Mawrth.

Ffit Conwy, ynghyd ag elusennau Epilepsy Action, Parkinson’s a Headway, sefydlodd y fenter wedi iddyn nhw ennill grant gan Gyngor Conwy.

Mae sylfaenwyr y caffi yn gobeithio y bydd yn “taclo unigrwydd” ac yn “dod â phobol at ei gilydd”.

“Taclo unigrwydd” ac annog “hwyl a sgwrs”

Ar ôl clywed am lwyddiant caffis o’r fath oedd wedi’u sefydlu yn y de, penderfynodd Jan Paterson o Epilepsy Action fod angen rhywbeth o’r fath yn y gogledd.

“Bwriad y caffi ydy i bobol sydd efo unrhyw gyflwr niwrolegol neu deulu sydd wedi’u heffeithio i ddod at ei gilydd i gymdeithasu,” meddai Rheolwr Cymru’r elusen wrth golwg360.

“Mae’n gyfle i roi cynnig ar weithgareddau newydd a dysgu technegau newydd i gefnogi hunanreolaeth.

“Yn hytrach na’u bod nhw’n canolbwyntio ar y cyflwr ar ben eu hunain, maen nhw’n dod at ei gilydd i gael hwyl a sgwrsio.

“Mae yna dros 400 o gyflyrau niwrolegol ac mae o wedi’i brofi bod cymdeithasu yn helpu lles y person – pa bynnag gyflwr sydd ganddyn nhw.

“Mae o’n helpu taclo unigrwydd hefyd.

“Ond mae’r Caffi Niwro yn agored i’r gofalwyr a theulu hefyd.”

Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn y Caffi Niwro fydd yn newid o fis i fis.

“Mae gennym ni Mark Richards o Ffit Conwy, sy’n hyfforddwr y gêm Boccia, yn cynnal hwnnw fel gweithgaredd, ac mae gennym hefyd ddynes yn dod i mewn i wneud ioga cadair, ac mae pawb yn gallu cymryd rhan yn y ddwy weithgaredd.

“Dw i am fentro i gael rhywun i mewn i gynnal gweithgaredd bob mis er mwyn i bobol gael trio gwahanol bethau a chael cyfle i ddod at ei gilydd i gael paned a sgwrs.

“Dw i’n bwriadu cael therapydd cerddoriaeth i ymuno ym mis Chwefror.”

Galw mawr am fwy o gaffis niwro

Dros y cyfnod ers Covid-19, mae’r sefydliadau sy’n rhan o’r Caffi Niwro wedi sylweddoli bod pobol yn llai parod i adael eu cartrefi.

Ond mae hyn yn rhywbeth maen nhw’n gobeithio’i newid, medd Jan Paterson.

“Rydan ni gyd yn cytuno nad ydy pobol i’w gweld eisiau dod allan a gadael eu cartrefi llawer.

“Mae o’n rywbeth mawr i unrhyw un efo unrhyw gyflwr i ddod allan o’r tŷ a cherdded trwy ddrws yr ystafell i’r neuadd.

“Ond rydan ni’n gobeithio y bydd y grŵp yma yn denu pobol allan o’u cartrefi i gyfarfod wyneb yn wyneb eto i drio gweithgareddau newydd.

“Gobeithio y gallwn ni godi eu hyder trwy eu helpu nhw i ddod allan i’r Caffi Niwro.”

Serch hynny, mae’r galw am gaffis o’r fath yn yr ardal yn fawr ac mae mwy ar eu ffordd ar draws y wlad.

“Hwn ydy’r Caffi Niwro cyntaf yn y gogledd, ac mae yna lot o alw wedi bod i sefydlu mwy ers i ni sefydlu hwn gan ei fod yn grŵp gwahanol i’r arfer,” meddai wedyn.

“Rydan ni’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na’u cyflwr yn y Caffi Niwro.

“Mae yna alw am hyn yn Llandudno, Treffynnon ac ym Mhorthmadog.

“Mae’r caffis i’w gweld yn gweithio’n reit dda, ac mae yna fwy o gaffis yn cael eu sefydlu ar draws Cymru erbyn hyn.”

Caffi Niwro parhaol ar y gorwel?

Ar hyn o bryd, mae’r caffi ar agor ar ddyddiadau penodol, ond y gobaith yn y pen draw yw gallu agor y caffi’n fwy parhaol, yn ôl Jan Paterson.

“Ein nod yn y pen draw ydy hyfforddi gwirfoddolwyr i redeg y Caffi Niwro,” meddai.

“Rydan ni eisiau gweithredu’r caffi’n llawn amser, er ein bod ni wedi bod yn lwcus i gael y grant gan Gyngor Conwy.

“Felly ein cam nesaf fydd pwyso a mesur diddordeb a be’ mae pobol ei angen o’r Caffi Niwro, fel ein bod yn gallu rhoi cais am grant mwy i allu cynnal a chadw’r caffi.

“Dros y ddeufis nesaf, byddwn ni’n gwneud ymchwil am ba weithgareddau fyddai pobol yn hoffi’u gweld yn y caffi, gan obeithio erbyn mis Ebrill fydd gennym ni ddigon o dystiolaeth i fwrw ymlaen dros y flwyddyn nesaf.”

Bydd y Caffi Niwro ar agor ar Chwefror 28 a Mawrth 27 rhwng 11yb a 12:30yp.