Mae’r posibilrwydd o golli swyddi yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn “newyddion pryderus”, medd y cynghorydd lleol.
Fe wnaeth yr Ardd Fotaneg yn Sir Gaerfyrddin gadarnhau ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 6) bod nifer o swyddi’n mynd, wrth iddyn nhw ddweud wrth staff fod rhaid iddyn nhw arbed dros £360,000 er mwyn aros ar agor.
Ar hyn o bryd, mae’r Ardd yn cyflogi 80 o weithwyr, ond bydd o leiaf unarddeg o weithwyr llawn amser yn cael eu diswyddo.
Mae disgwyl i’r broses o ddiswyddiadau gwirfoddol a gorfodol ddod i ben erbyn diwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth.
‘Trysor yng nghalon cefn gwlad Sir Gâr’
Dywed Ann Davies, Cynghorydd Plaid Cymru dros ward Llanddarog, nad yw’r newyddion yn annisgwyl, er ei fod yn “anffodus”.
“Mae’r Ardd yn un o sawl sefydliad cenedlaethol sy’n dioddef toriad o 10% mewn cyllid gan Lywodraeth Lafur Cymru, sydd yn ei dro, ddim yn cael cyllid digonol gan lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig,” meddai darpar ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin.
“Mae hefyd yn newyddion pryderus i bawb sy’n ystyried yr Ardd Fotaneg ger Llanarthne i fod yn sefydliad cenedlaethol pwysig ac yn drysor yng nghalon cefn gwlad Sir Gâr.
“Gan fy mod yn byw yn agos iawn i’r Ardd, rwy’ wedi gweld ei thrawsnewid o fod yn dir amaethyddol i’r atyniad mawr sydd yno heddiw.
“Mae’n lle o arwyddocâd rhyngwladol sy’n adnabyddus am fod â’r tŷ gwydr bwa sengl mwyaf yn y byd.
“Mae yno blanhigion sy’n brin ac o dan fygythiad, yn ogystal â bod yn gyflogwr ac atyniad pwysig.
“Rhaid gwarchod dyfodol yr Ardd a’i swyddi.”
‘Cyfnod heriol’
Yn ôl WalesOnline, mae rheolwyr yr Ardd Fotaneg wedi dweud wrth eu gweithwyr mewn llythyr fod yr Ardd yn “sefydliad hanfodol a phwysig, fydd yma i bobol Cymru am genedlaethau i ddod” er gwaethaf “y cyfnod heriol”.
“Bydd y penderfyniadau hollbwysig rydyn ni’n eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth i’r sefydliad a’r gymuned yn y tymor hir,” meddai.
“Mae hyn yn dibynnu arnom ni i gyd yn cydweithio a’n cefnogi ein gilydd, ac yn cofio cael cymorth pan fo’i angen.”