Mae Aelodau’r Senedd wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid cefnogi cynlluniau i gadw ffwrneisi chwythu safle dur Tata ym Mhort Talbot ar agor dros dro er mwyn cefnogi’r gweithwyr.
Cafodd y cynlluniau eu cefnogi gan 54 o Aelodau.
Dywed Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru, ei fod e hefyd eisiau gweld asedau Tata yng Nghymru’n cael eu gwladoli.
Ychwanega y dylai hedfan i Mumbai i gwrdd ag arweinwyr Tata fod yn un o flaenoriaethau’r Prif Weinidog nesaf, wedi i’r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones fynd yno i’w cyfarfodydd bwrdd yn 2016.
Dywed Adam Price ymhellach y dylai Cymru gynnig prynu asedau Cymreig Tata am eu gwerth presennol os nad yw’r cwmni dur yn newid eu meddyliau.
Fodd bynnag, ychwanega nad yw’n credu y bydd Tata eisiau gwneud hynny “gan nad ydyn nhw eisiau’r gystadleuaeth”.
“Pe bai Tata yn gwrthod, yna fe allen ni fygwth pasio deddfwriaeth frys i orfodi pryniant gorfodol o asedau Cymreig Tata,” meddai.
“Mae cyfreithwyr y Senedd wedi cadarnhau y gallai gwladoli i achub diwydiant dur Cymru fod o fewn ein cymhwysedd.
“Byddai hyn bron yn sicr yn cael ei herio gan Tata ond byddai hyd yn oed hyn yn rhoi pŵer gwaharddol i ni atal cau ar unwaith.”
Dywed fod angen gweithio er mwyn sicrhau y bydd diwydiant dur Cymru yn gallu goroesi’r flwyddyn nesaf.
“Mae’r syniadau hyn yn rhai newydd ac sydd heb eu profi,” meddai.
“Ond mewn sefyllfaoedd digynsail, dyna’n union sydd ei angen arnoch chi.”
‘Anfon neges gref’
Dywed Vaughan Gething, un o’r ddau yn y ras i olynu Mark Drakeford, fod y bleidlais unfrydol i gefnogi’r cynlluniau i gadw’r ffwrneisi chwyth ar agor yn “anfon neges gref gan y Senedd gyfan”.
Ar hyn o bryd, mae Tata yng nghanol ymgynghoriad 45 diwrnod ar gynlluniau i gau’r ffwrneisi chwyth, yn y gobaith o wneud y diwydiant yn un gwyrddach.
Byddai’r cynlluniau i’w cau nhw’n arwain at golli 2,800 o swyddi.
“Mae’r diwydiant dur yn rhan o stori ein cenedl, ac yn sefyll heddiw fel arwydd o ragoriaeth Gymreig,” meddai.
“Mae’r fargen a gyrhaeddwyd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Tata mewn perygl o arwain at golled economaidd hanesyddol i Gymru o fewn diwydiant sy’n sail i’n dyfodol gweithgynhyrchu a’r swyddi gwyrdd y gallai eu datgloi.
“Mae Aelodau’r Senedd wedi dod at ei gilydd i anfon neges glir – mae ffordd arall sy’n galluogi gweithlu hynod fedrus, ymroddedig i sicrhau dyfodol gwyrddach i ddur Cymru.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r busnes, undebau llafur a Gweinidogion y Deyrnas Unedig i gefnogi’r fargen orau ar gyfer dur, nid y fargen rataf.”