Mae cynlluniau i godi tai tu ôl i Swyddfa’r Post mewn pentref ar Ynys Môn wedi cael eu cymeradwyo, er bod pryderon am “garthion yn llifo a llifogydd”.

Cafodd y cynlluniau i godi dau gartref “fforddiadwy” a phedwar cartref “ar y farchnad agored” tu ôl i Swyddfa’r Post ar Ffordd Caergybi, Gwalchmai eu cymeradwyo.

Roedd y cynigion, gafodd eu cyflwyno gan Amarjit Shoker, yn cynnwys dymchwel dau adeilad allanol a chreu mynedfa newydd i’r eiddo.

Gwrthwynebiadau a phryderon

Roedd y cais wedi denu 29 o wrthwynebiadau gan bobol leol a’r Cyngor Cymuned.

Cafodd pryderon eu codi am draffig, hygyrchedd a gallu’r system garthffosiaeth i ymdopi â “llif ychwanegol”.

Yn ystod cyfarfod cynllunio ddydd Mercher, Mawrth 6, dywedodd y Cynghorydd lleol Neville Evans ei fod yn “gyfarwydd iawn” â’r ardal ac yn gwybod am broblemau draenio a llifogydd.

Mae pibellau’n “hen ac wedi torri”, a dydy draeniau “ddim yn medru ymdopi” yn ystod glaw trwm a charthion yn llifo, meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans fod yna “ffos mewn llifogydd”, a bod y Cyngor wedi cael gwybod am hyn sawl gwaith.

Dywedodd fod “carthion” yn llifo i mewn i’r ffyrdd, ac fe wnaeth e gwestiynu materion yn ymwneud â fforddiadwyedd a phreifatrwydd.

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus Oswyn Williams ei fod yn cynrychioli trigolion a Chyngor Cymuned Gwalchmai wrth iddyn nhw wrthwynebu’r cynigion.

Cafodd llythyrau, ffotograffau a fideos eu cyflwyno ganddyn nhw.

Disgrifiodd e’r mynediad fel “anaddas a pheryglus”, gan nodi bod trigolion yn parcio ar yr A5 brysur gyferbyn â’r fynedfa.

Cododd e bryderon am weladwyedd ar y ffordd, gan ddweud bod gan storfa sydd am gael ei dymchwel do ag asbestos, bod diddymu gwrych ar y ffin yn “andwyol i fywyd gwyllt”, ac y byddai ffenestri’n cael effaith ar “fwynderau a phreifatrwydd”.

Dywedodd fod yna “ddŵr yn cronnu” yn yr ardal, gan ddisgrifio “atalfa a dŵr yn llifo”.

Dywedodd y byddai cysylltu cartrefi â’r “system ddiffygiol hon yn anghyfrifol ac annerbyniol”.

O blaid y cynigion

Siaradodd Jamie Bradshaw o gwmni Owen Devenport o blaid y cynigion, gan ddweud bod “ystyriaeth fanwl” wedi’i rhoi i’r holl faterion.

Dywedodd y byddai’r cynnig yn “diwallu anghenion y gymuned” am dai fforddiadwy a chost isel, a’u bod nhw mewn “lleoliad hygyrch”.

Cafodd y cynllun “ganmoliaeth” am ei leoliad a’i “ddyluniad da”, gyda “digon o le” ar ei gyfer.

Bydd asesiadau ecolegol a datblygiadau’n mynd i’r afael â’i “effeithiau cymedrol”.

Byddai’r fynedfa’n cynnig gweladwyedd o 45 metr, sef y gofyniad ar gyfer 30m.y.a., yn hytrach na’r 22 metr sy’n ofynnol ar gyfer 20m.y.a., meddai.

Ychwanegodd fod symud cerbydau’n gysylltiedig â’r cartrefi o fewn capasiti’r ffordd, gan ddweud bod “lefel dda” o barcio.

Dywedodd fod Dŵr Cymru hefyd wedi nodi bod yna “gapasiti” ar gyfer y cynnig.

Dywedodd fod y cynllun yn “cydymffurfio’n llawn” â’r cynllun datblygu lleol, a’i fod “wedi’i gefnogi’n llawn gan swyddogion” y Cyngor.

Y Gymraeg

“Fel y gwyddoch chi, mae Gwalchmai yn bentref Cymraeg; gobeithio, pe bai hwn yn cael ei basio heddiw, y bydd y bobol fydd yn byw yno’n siaradwyr Cymraeg,” meddai’r Cynghorydd Bob Llewelyn Jones.

“Dw i ddim yn gweld unrhyw beth yn hwn i’w hatal nhw rhag cael eu hadeiladu.”

“Mae gennym ni angen i dai gael eu hadeiladu ledled Ynys Môn, ac am eiddo preswyl yng Ngwalchmai; mae galw sylweddol am breswylfeydd dwy a thair ystafell wely,” meddai’r Cynghorydd Jeff Evans.

“Does yna’r un cartref fforddiadwy sydd â thair ystafell wely,” meddai’r Cynghorydd John Ifan Jones.

“Fydd hynny ddim yn cynnal teulu nac yn helpu’r ysgol.”

Dywedodd ei fod yn teimlo bod cartrefi’n cael eu “stwffio i mewn”, gan ddisgrifio’r dyluniad fel un “trafferthus”.

Argymhelliad

Dywedodd y swyddog cynllunio Rhys Jones ei fod ar safle tir glas ar gyfer datblygiad, o fewn y ffiniau.

Yr argymhelliad oedd ei gymeradwyo, yn unol ag amodau.

Dywedodd nad yw draeniau wedi’u blocio’n golygu nad oes “capasiti” ar gyfer y datblygiad, gan ddweud nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru “unrhyw wrthwynebiad”.

Cafodd y cais ei basio, gyda mwyafrif o bump o bleidleisiau o’i blaid.