Mae Jeremy Miles, un o’r ddau ymgeisydd yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, wedi addo y byddai Llywodraeth Cymru o dan ei arweiniad yn blaenoriaethu’r economi a swyddi.
Mae’r Gweinidog Addysg presennol yn herio Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, i olynu Mark Drakeford.
Dywed yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Gastell-nedd ei fod yn awyddus i Gymru fod yn fwy llewyrchus ac i gynyddu solidariaeth rhwng pobol.
Cyngor Economi Cenedlaethol
Yn ddiweddarach heddiw (dydd Llun, Mawrth 11), bydd Gordon Brown, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn galw ar Lywodraeth Lafur nesa’r Deyrnas Unedig i greu Cyngor Economi Cenedlaethol i ganolbwyntio ar dwf economaidd.
Mae hyn yn ategu sylwadau Jeremy Miles ym mis Ionawr y byddai’n arwain ar sefydlu’r Cyngor newydd i gynghori Llywodraeth Cymru ar bolisïau strategol i wireddu’r uchelgeisiau hyn.
Yn ôl Jeremy Miles, byddai busnesau, cyflogwyr ac undebau llafur da yn bartneriaid pwysig i Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw geisio gwireddu ei weledigaeth.
Blaenoriaethau
Prif addewid economaidd Jeremy Miles yw creu pecyn economi werdd, fydd yn edrych ar holl wariant cyfalaf a chaffael y Llywodraeth, ochr yn ochr â modelau ariannu newydd mewn partneriaeth â llywodraeth leol, er mwyn creu swyddi cynaliadwy o safon uchel a mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Bydd yn ceisio achub ar bob cyfle i fanteisio ar y ffaith fod Cymru’n wlad ddatganoledig fach er mwyn cymryd camau breision a dewr drwy ddefnyddio’r pwerau datganoledig sydd ar gael i’r llywodraeth.
Bydd hynny yn y ei dro yn ei gwneud hi’n haws sefydlu a rhedeg busnes, a sefydlu a thyfu cwmnïau i roi hwb i ysbryd mentergarwch Cymru.
Mae e hefyd wedi ymrwymo i wella profiadau a chyfranogiad ymhlith y gweithlu, ehangu gofal plant a chefnogaeth gan gyflogwyr o ran y menopos.
Ymhlith ei flaenoriaethau eraill mae:
- tynnu ar dystiolaeth a phrofiad rhyngwladol er mwyn hybu’r economi, gan ganolbwyntio ar dwf cynaliadwy, buddsoddiad, entrepreneuriaeth, cefnogaeth hyd braich gan y Llywodraeth o ran cynhyrchiant, ac ehangu gorchwyl Banc Datblygu Cymru i gefnogi buddsoddiad gwyrdd.
- cefnogi cydweithio economaidd trawsffiniol, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, a manteisio ar fuddsoddiad ym Mlaenau’r Cymoedd.
- sicrhau bod prifysgolion, colegau, y gymuned fuddsoddi, busnesau, entrepreneuriaid a Llywodraeth Cymru wedi’u halinio o ran blaenoriaethau economaidd cenedlaethol, gan gynnwys arloesedd.
- annog busnesau canolig i osod gwreiddiau ac aros yn eu cymunedau
- ymgyrch i ddenu doniau i Gymru, gan gynnwys annog graddedigion newydd i aros yng Nghymru i fyw a gweithio
- helpu busnesau i ddeall yr amgylchfyd rheoleiddio er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth, ac adeiladu capasiti cynllunio ledled Cymru i gyflymu penderfyniadau
- cyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau wedi’u hysbrydoli gan Marcora, sy’n cefnogi gweithwyr i gymryd perchnogaeth er mwyn esgor ar newid
‘Gwlad dosturiol’
“Does yna’r un llwybr i’r wlad fwy tosturiol rydyn ni eisiau bod nad yw’n pasio heibio’r wlad fwy llewyrchu mae angen i ni fod,” meddai Jeremy Miles.
“Mae Cymru’n dal i fod yn wlad rhy dlawd, ac felly creu economi fwy llewyrchus fydd fy mhrif flaenoriaeth yn Brif Weinidog.
“Mae’n dda gweld Gordon Brown yn gwneud galwadau tebyg ar sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb i anghenion ehangach yr economi, sy’n cael y fath effaith ar Gymru.
“Fodd bynnag, dw i’n gwybod y gallwn ni gymryd mwy o gamau yma yng Nghymru hefyd.”
Yn ôl Jeremy Miles, byddai gofyn bod Llywodraeth Cymru’n camu i fyny i gefnogi busnesau newydd mentrus.
“Dw i’n gwybod beth yw ystyr hyn, a minnau wedi gweithio’n fyd-eang am ugain mlynedd ym myd y gyfraith fasnachol cyn camu i’r byd gwleidyddol,” meddai.
“Mae’r OECD ac eraill wedi awgrymu y gall Llywodraeth Cymru hogi ein dylliau tuag at ddatblygiad economaidd.
“Byddaf yn newid agwedd y llywodraeth dros nos, a byddwn ni’n bencampwyr ar gyfer gweithwyr, cyflogwyr da a’r economi.
“Llywodraeth â chryn egni sy’n gwneud pethau, sy’n siarad yn reddfol ac sy’n deall iaith dyfeisgarwch ac arloesedd, cymryd risg a masnach, ac sy’n gyflym ac yn hawdd delio â hi – daw hynny ynddi’i hun yn ffynhonnell o fantais gystadleuol wrth ddenu a chadw buddsoddiad yng Nghymru.”
Mae’r rhan fwyaf o Aelodau Llafur yn y Senedd yn cefnogi Jeremy Miles yn y ras arweinyddol.