Dr Carol Bell, cyn-aelod o fyrddau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Awdurdod S4C, Banc Datblygu Cymru, Amgueddfa Cymru a Chanolfan y Mileniwm yw Trysorydd newydd Clwb Criced Morgannwg.
Y Gymraes Gymraeg o Felindre ger Abertawe oedd y ddynes gyntaf i’w phenodi i Fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2019, a hi yw cadeirydd presennol eu Pwyllgor Archwilio Cyllid a Risg.
Yno, bu’n arwain ar adroddiad ynghylch dyfodol cynaliadwy’r sefydliad.
A chanddi gefndir ym myd diwydiant a chyllid, mae hi’n aelod o nifer o bwyllgorau rhyngwladol ym meysydd glo ac ynni.
Roedd hi’n un o gyfarwyddwyr cyntaf Chapter Zero, rhwydwaith sy’n trafod datgarboneiddio a pheryglon newid hinsawdd.
Mae hi’n Gymrawd ym mhrifysgolion Abertawe a’r Drindod Dewi Sant, ynghyd â Chymdeithas y Cymmrodorion a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
‘Profiad helaeth’
Mae Mark Rhydderch-Roberts wedi croesawu Dr Carol Bell i’w rôl newydd.
“Bydd ei phrofiad helaeth yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn amhrisiadwy wrth i Forgannwg barhau i ddatblygu a manteisio ar y cyfleoedd sy’n codi wrth i griced newid gyda’r genhedlaeth sydd ohoni,” meddai.
“Mae pawb ohonom ym Morgannwg yn edrych ymlaen at gydweithio â Dr Bell, a’r hyn y gallem ei gyflawni gyda’n gilydd.”
‘Caru criced’
“Dw i’n caru criced er pan oeddwn i’n ifanc iawn, wedi fy magu yn Felindre ar adeg pan oedd Alan ac Eifion Jones yn chwarae i Forgannwg,” meddai Dr Carol Bell.
“Yn fyfyrwraig, roeddwn i’n ddigon ffodus i chwarae criced i fenywod, a dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o Fwrdd Morgannwg ar adeg gyffrous i ddatblygiad y gêm, yn rhyngwladol ac o fewn Cymru.”