Mae Meilyr Emrys, sy’n gohebu i golwg a golwg360, yn dweud iddo ddatrys dirgelwch tatŵ Cymraeg chwaraewr pêl-droed Americanaidd.

Fe ddaeth i’r amlwg fod gan Tyson Bagent, sy’n chwarae i’r Chicago Bears, y gair “teulu” mewn tatŵ ar ei frest, gan awgrymu cysylltiadau Cymraeg a Chymreig.

Ar wefan Newyddion S4C dros y penwythnos, roedd “cryn ddyfalu pam fod un o sêr yr NFL yn yr UDA [Unol Daleithiau] gyda dau datŵ Cymraeg ar ei gorff”.

“Teimlais fy holl mywyd fy mod i fod i hedfan” yw’r geiriau mewn tatŵ arall sydd gan y chwarterwr ar ei gorff.

Eglurhad

Bellach, mae fideo wedi dod i’r amlwg yn egluro’i wreiddiau Cymraeg.

Cafodd y fideo ei bostio ar wefan YouTube bedwar mis yn ôl.

“Dw i’n foi teulu mawr,” meddai.

“Mae’n golygu ‘family’ yn Gymraeg, mae fy nhaid yn Gymro.

“Mae Cymreictod yn rhan ohonof fi.”