Mae adroddiadau y gallai Joe Rodon, amddiffynnwr canol tîm pêl-droed Cymru, ymuno â Leeds yn barhaol yn yr haf.

Mae lle i gredu bod Spurs yn barod i roi’r hawl i’r chwaraewr 26 oed ymuno â’r clwb yng ngogledd-orllewin Lloegr sy’n anelu am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Mae Rodon wedi chwarae 38 o gemau i Leeds, gan chwarae bob munud o bob gêm hyd yn hyn yn 2024.

Mae lle i gredu bod Spurs yn barod i’w werth am £10-15m pe bai Leeds yn ennill dyrchafiad.

Roedd sôn yn ystod ffenest drosglwyddo Ionawr fod nifer o glybiau’n awyddus i’w ddenu atyn nhw, ond fod y Cymro wedi penderfynu aros yn Leeds.